Cefnogwyr rygbi ifanc yn profi Siapan mewn sesiwn flasu ar thema Cwpan y Byd
27 Tachwedd 2019
Cafodd grŵp o gefnogwyr rygbi ifanc brofiad o wlad y wawr ym mis Hydref pan gymeron nhw ran mewn sesiwn flasu Siapaneaidd i gyd-fynd â Chwpan Rygbi’r Byd 2019.
Uno Cymru a Siapan: Profi Siapan a Chwpan Rygbi’r Byd, oedd enw’r sesiwn, sef sesiwn flasu ar iaith a diwylliant Siapan gyda thema rygbi, yn Old Penarthiants RFC ar 6 Hydref. Cafodd ei threfnu gan DR Ruselle Meade a Dr Miho Inaba o’r Ysgol Ieithoedd Modern, a’i chyflwyno i’r timau dan 8 a dan 9 oed, yn ogystal â’u rhieni a’r hyfforddwyr.
Cafodd Cymru gyfan ei swyno gan y tîm rygbi cenedlaethol ym Medi a Hydref wrth iddyn nhw chwarae mewn dinasoedd gan gynnwys Tokyo, Oita a Kumamoto. Roedd yn gyfle gwych i ddod â diwylliant Siapan i Gymru a helpu pobl i ddeall mwy am y wlad a’i hiaith.
Cafodd bawb gyfle i fod yn rhan o seremoni de draddodiadol, chwarae cwis daearyddiaeth Siapan, meistroli origami (plygu papur), dysgu sut i ysgrifennu eu henwau mewn sgript katanaka (elfen o’r system ysgrifennu Siapanëeg) a chyfri i ddeg.
Cawsant hefyd gyflwyniad i calisthenics radio, sy’n ymarferion ysgafn yn seiliedig ar gyfarwyddiadau drwy ddarllediadau radio. Mae plant (yn ogystal ag oedolion) fel arfer yn dysgu calisthenics yn Siapan. Perfformiwyd y calisthenics yn ystod y sesiwn gan ddefnyddio’r wybodaeth newydd a ddysgodd bawb o rifau Siapaneaidd i gyfrif ailadrodd.
Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Sefydliad Siapan. Rhoddodd Sefydliad Siapan wobrau (dalwyr allweddi â brand Cwpan Rygbi’r Byd) i bawb a gymrodd ran, yn ogystal â phosteri, taflenni a phamffledi am y dinasoedd oedd yn cynnal gemau Cwpan Rygbi’r Byd.
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y cyd-drefnydd y Dr Ruselle Meade, “Roedd Siapan yn cynnal Cwpan Rygbi’r Bydd yn gyfle amserol i ni ddod i gysylltiad â chynulleidfaoedd newydd. Penderfynodd yr Adran Siapanëeg gysylltu â Sefydliad Siapan am noddi sesiwn flasu iaith a diwylliant mewn clwb rygbi lleol. Gwnaethom hyn am ein bod yn meddwl taw’r ffordd orau o hybu brwdfrydedd dros ieithoedd oedd ei gyflwyno drwy arferion hwyl ac mewn amgylchedd lle y gallai’r cyfranogwyr weld ei berthnasedd y dyddiau hyn. Roedd yn sesiwn hwyl ac roedd y plant yn llawn brwdfrydedd.”
Mae’r Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnig ystod o opsiynau i astudio Siapanëeg.