Cregyn cylchog wedi’u barbeciwio ar fwydlen Puerto Riciaid hynafol
27 Tachwedd 2019
Gwyddonwyr wedi ail-greu technegau coginio trigolion cynnar Puerto Rico drwy ddadansoddi olion cregyn cylchog.
Dan arweiniad ymchwilydd ôl-ddoethurol o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Miami, defnyddiodd y tîm dechnegau dadansoddi cemegol newydd i ganfod yr union dymereddau coginio y cafodd cregyn cylchog eu coginio ynddynt dros 2500 o flynyddoedd yn ôl.
Gyda thymereddau coginio’n cyrraedd tua 200oC yn ôl y dadansoddiad newydd, mae’r tîm yn credu bod barbeciw’n well gan y Puerto Riciaid na berwi eu bwyd yn gawl.
Heddiw fe gyhoeddwyd yr astudiaeth, fu hefyd yn cynnwys academyddion o Brifysgol Miami a Choleg Valencia, yng nghyfnodolyn Science Advances.
Er bod y canfyddiadau’n taflu goleuni ar arferion diwylliannol y cymunedau cyntaf i gyrraedd ynys Puerto Rico, maent hefyd yn cynnig tystiolaeth amgylchiadol o leiaf nad oedd technoleg crochenwaith ceramig yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwn – mae’n debygol mai hon fyddai’r unig ffordd y gallai’r cregyn cylchog fod wedi cael eu berwi.
Yn ôl Dr Philip Staudigel, prif awdur yr astudiaeth o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae rhan fawr o hunaniaethau pobl yn seiliedig ar ble maent yn enedigol ohono, a choginio yw un o’r mynegiannau mwyaf sylfaenol o hynny. Rydym yn dysgu coginio gan ein rhieni, a ddysgodd gan eu rhieni hwythau.
Yn eu hastudiaeth, dadansoddodd y tîm dros 20kg o gregyn calchog wedi’u ffosileiddio yn Labordy Isotopau Sefydlog Ysgol Gwyddorau’r Môr a’r Atmosffer Rosenstiel, Prifysgol Miami. Casglwyd y cregyn o safle archaeolegol yn Cabo Rojo, Puerto Rico.
Poblogaeth cyn-Arawak Puerto Rico oedd trigolion cyntaf yr ynys, gan gyrraedd cyn 3,000BC, a daethon nhw o Ganol a/neu Dde America. Roeddynt yn byw drwy bysgota, hela a chasglu ger gwernydd mangrof ac ardaloedd arfordirol lle anheddon nhw.
Cafodd y cregyn wedi’u ffosileiddio, sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 700BC, eu glanhau a’u troi’n bowdr. Dadansoddwyd y powdr hwn i ganfod ei fwynoleg, yn ogystal â’r digonedd o fondiau cemegol penodol yn y sampl.
Pan mae mwynau penodol yn cael eu gwresogi, mae’r bondiau rhwng yr atomau yn y mwyn yn gallu aildrefnu eu hunain, a gellir mesur hyn yn y labordy. Mae faint o aildrefnu sy’n digwydd yn gymesur â’r tymheredd y cafodd y mwyn ei wresogi ynddo.
Yn aml, mae’r dechneg hon, o’r enw geocemeg isotopau wedi’u clympio, yn cael ei defnyddio i ganfod y tymheredd y mae organebau’n cael eu ffurfio ynddo. Yn yr achos hwn fodd bynnag, cafodd ei defnyddio i ganfod y tymheredd y cafodd y cregyn calchog eu coginio ynddo.
Yna, cafodd y digonedd o fondiau yn y ffosilau wedi’u powdro eu cymharu â chregyn cylchog a goginiwyd mewn tymereddau penodol, yn ogystal â chregyn cylchog presennol heb eu coginio, a gasglwyd o draeth cyfagos.
Dangosodd y canlyniadau i’r rhan fwyaf o gregyn cylchog gael eu gwresogi mewn tymereddau dros 100°C – berwbwynt dŵr – ond dim mwy na 200°C. Ar ben hynny, datgelodd y canlyniadau wahaniaeth rhwng tymheredd coginio’r gwahanol gregyn cylchog. Mae ymchwilwyr yn credu y gallai hyn fod yn gysylltiedig â thechneg gridyllu, lle mae’r cregyn cylchog yn cael eu gwresogi oddi tanynt, sy’n golygu i’r rhai ar y gwaelod gael eu gwresogi fwy na’r rhai ar y top.
“Roedd y cregyn cylchog o’r safle archaeolegol yn ymddangos fwyaf tebyg i gregyn cylchog wedi’u barbeciwio,” aeth Dr Staudigel rhagddo.
“Nid oedd Puerto Riciaid hynafol yn defnyddio llyfrau coginio, o leiaf nid unrhyw rai sydd wedi goroesi hyd heddiw. Yr unig ffordd sydd gennym o wybod sut byddai ein hynafiaid yn coginio, yw astudio’r hyn a adawon nhw ar eu hôl. Yma, dangoson ni y gellir defnyddio techneg gymharol newydd i ddysgu ar ba dymheredd y byddent yn coginio, sy’n fanylyn pwysig i’r broses goginio.”