Arbenigwyr yn galw am gamau mwy pendant i atal pydredd dannedd ymhlith plant
27 Tachwedd 2019
Mae astudiaeth tair blynedd sy'n cymharu tri opsiwn triniaeth gwahanol ar gyfer pydredd dannedd ymhlith plant yn awgrymu mai atal pydredd dannedd yn y lle cyntaf yw'r ffordd fwyaf effeithiol o helpu i osgoi poen a heintiau a achosir gan bydredd.
Roedd FICTION, yr astudiaeth fwyaf o'i math, yn astudiaeth aml-ganolfan gyda deintyddfeydd ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru. Yr Athro Barbara Chadwick, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd oedd Arweinydd Clinigol Cymru a hi fu'n gyfrifol am recriwtio a hyfforddi'r ymarferwyr clinigol yng Nghymru a gymerodd ran yn yr astudiaeth.
Yn ystod yr astudiaeth, cafodd dros 1,140 o blant rhwng tair a saith mlwydd oed â phydredd dannedd amlwg eu recriwtio gan ddeintyddion sy'n gweithio yn un o'r 72 clinig deintyddol ar draws y wlad. Cafodd un o'r tri opsiwn triniaeth ei ddewis ar hap ar gyfer gofal deintyddol pob plentyn drwy gydol y treial.
Ni ddaeth prif ganfyddiadau'r treial, a gyhoeddwyd yn Journal of Dental Research yr wythnos hon, o hyd i unrhyw dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod un o’r strategaethau triniaeth yn well na'r lleill. Roedd y dair ffordd wahanol o drin pydredd yn dderbyniol i blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol deintyddol.
Dywedodd yr Athro Nicola Innes, Cadeirydd Deintyddiaeth Bediatrig ym Mhrifysgol Dundee a phrif awdur y papur, "Beth sy'n gwbl glir am ein treial yw mai nad drilio na selio yw'r ffordd orau o reoli pydredd dannedd - ond ei atal yn y lle cyntaf."
Yn ôl yr Athro Gail Douglas, Cadeirydd Iechyd y Cyhoedd Deintyddol ym Mhrifysgol Leeds ac un o'r prif ymchwilwyr, "Y newyddion da fodd bynnag yw y gellir atal pydredd dannedd. Mae brwsio eich dannedd gyda phast fflworid, yn enwedig y peth olaf cyn cysgu, osgoi diodydd llawn siwgr a byrbrydau rhwng prydau bwyd, a mynd at y deintydd yn gyson, yn arferion bach a all helpu i hybu iechyd cyffredinol eich dannedd."
Cafodd astudiaeth FICTION ei hariannu gan raglen Asesiad Technoleg Iechyd (HTA) y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR).