Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Athena SWAN

26 Tachwedd 2019

Mae’r Ysgol Cemeg wedi cael Gwobr Efydd Athena SWAN i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae’r gwaith caled ac ymrwymiad yr Ysgol Cemeg i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a mynd i’r afael ag annhegwch wedi arwain at ennill gwobr Efydd Athena SWAN.

Nod Siarter Athena SWAN yw cydnabod ac annog ymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn addysg uwch ac ymchwil.

Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Pennaeth yr Ysgol: “Mae’r Wobr Efydd hon yn tystio i ymrwymiad yr Ysgol i alluogi pob unigolyn i gael y cyfle gorau i wireddu eu potensial. Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl weithgareddau.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled, ac i aelodau tîm SAT yn enwedig a gyfrannodd at ysgrifennu’r cais a chymuned gyfan yr Ysgol am gydnabod bod angen meithrin amgylchedd sy’n cydnabod cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.”

Yn wreiddiol, fe sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 gan yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb (ECU), sydd bellach yn rhan o AU Uwch, er mwyn annog a chydnabod ymrwymiadau i hybu gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd y Siarter i gynnwys y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith (AHSSBL), ac mae bellach yn cydnabod gwaith yr ymgymerir ag e i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau’n fwy eang, ac nid rhwystrau rhag cynnydd sy’n effeithio ar fenywod yn unig. Nod y Siarter diwygiedig yw ysgogi trawsnewidiadau sefydliadol a diwylliannol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r holl staff drwy hyrwyddo arferion gweithio cyfartal, teg a chynhwysol.

Bydd cyflwyniad yr Ysgol Cemeg yn ddilys am bedair blynedd tan fis Ebrill 2023.

Rhannu’r stori hon