Academydd o Brifysgol Caerdydd i gymryd rôl flaenllaw mewn cynulliad dinasyddion ar gyfer y newid yn yr hinsawdd
25 Tachwedd 2019
Cyfarwyddwr Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST) Prifysgol Caerdydd fydd yr arbenigwyr blaenllaw ar gyfer cynulliad newydd dinasyddion y DU ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae'r Athro Lorraine Whitmarsh yn un o bedwar arbenigwr a fydd yn cefnogi'r gwaith o gynllunio a chyflwyno Cynulliad Hinsawdd y DU.
Bydd y fenter, a sefydlwyd gan ASau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol, yn edrych ar beth gall pobl ei wneud i leihau CO2.
Mae cynulliadau dinasyddion yn dod â phobl at ei gilydd o bob cefndir i drafod problemau pwysig.
Maent wedi'u defnyddio ar draws y byd, gan gynnwys yn y DU, i helpu i lywio gwaith llywodraethau a seneddau.
Yn gynharach y mis hwn, anfonwyd 30,000 o wahoddiadau at gartrefi a ddewiswyd hap ar draws y DU.
O'r rheini, bydd grŵp o 110 aelod yn cael eu dewis fel sampl cynrychioladol o'r boblogaeth.
Rôl yr arweinydd arbenigol yw gwneud yn siŵr bod Cynulliad Hinsawdd y DU yn:
- Gytbwys, cywir a chynhwysfawr
- Canolbwyntio ar y prif benderfyniadau sy'n eu hwynebu ynghylch sut i gyflawni targed llywodraeth y DU o allyriadau sero-net erbyn 2050
Bydd y cynulliad newydd yn cwrdd yn y flwyddyn newydd, gyda chanlyniad eu trafodaethau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r Senedd.
Mae'r Athro Whitmarsh yn seicolegydd amgylcheddol, sy'n arbenigo mewn canfyddiadau ac ymddygiad mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, treuliau, ynni a thrafnidiaeth.
Dywedodd: "Mae'r Cynulliad Hinsawdd yn gyfle hynod gyffrous i gyhoedd y DU gael dweud eu dweud ar sut rydym ni fel cymdeithas yn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rydym ni'n gwybod fod y cyhoedd yn poeni am y newid yn yr hinsawdd ac eisiau gweithredu.
"Bydd y Cynulliad yn rhoi'r cyfle i drawstoriad o'r cyhoedd ddysgu mwy am y broblem a phleidleisio ar opsiynau a chynigion polisi i fynd i'r afael â hi. Rydw i wrth fy modd o fod yn rhan o waith cynllunio'r Cynulliad i wneud yn siŵr ei fod yn helpu llunwyr polisïau a'r gymdeithas i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."
Bydd themâu allweddol ar gyfer y Cynulliad Hinsawdd yn cynnwys sut mae pobl yn teithio, beth mae pobl yn prynu a defnydd ynni'r cartref.
Caiff canlyniadau'r trafodaethau eu cyflwyno i'r chwe phwyllgor dethol, a fydd yn eu defnyddio fel sail ar gyfer y gwaith manwl o weithredu'r argymhellion. Byddant hefyd yn cael eu trafod yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dyma'r tri arweinydd arbenigol arall sy'n rhan o'r prosiect:
- Chris Stark, Prif Weithredwr y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd
- Jim Watson, Athro Polisi Ynni, Coleg Prifysgol Llundain a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Ynni y DU
- Rebecca Willis, Athro Ymarfer, Prifysgol Caerhirfryn
Cafodd yr Athro Whitmarsh ei phenodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol CAST Prifysgol Caerdydd, sy’n werth £5m, a ariennir gan y Cyngor, ym mis Mai eleni.
Mae'r Ganolfan yn ganolfan fyd-eang ar gyfer deall y trawsffurfiadau systemig ar draws y gymdeithas sydd eu hangen i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Ei nod yw mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol o sut y gallwn fyw yn wahanol i fodloni'r angen brys i leihau allyriadau'n gyflym ac yn bellgyrhaeddol.