Ysgoloriaeth MA
20 Tachwedd 2019
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1726694/Pound.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig Ysgoloriaeth MA ar gyfer Mynediad 2020.
Bydd yr Ysgoloriaeth yn talu ffioedd llawn i fyfyriwr Cartref llawn-amser (12 mis), neu’n rhannol ar gyfer ffioedd myfyriwr Rhyngwladol, sydd yn ymuno a’r rhaglen Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21.
Mae’r MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhaglen agored a hyblyg sydd yn caniatáu i fyfyrwyr deilwra’r cynnwys yn ôl eu diddordebau ac arbenigeddau ymchwil eang staff academaidd yr Ysgol. Mae’n bosib hefyd astudio’r radd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, neu gyfuniad o’r ddau.
Dywed Dr Siwan Rosser, cyfarwyddwr y rhaglen MA: “Dyma raglen heriol sy’n cynnig y cyfle i astudio pynciau arbenigol, datblygu prosiectau, ac archwilio’r berthynas rhwng eich diddordebau ymchwil a gofynion y byd gwaith. Bydd y radd yn rhoi’r sgiliau a’r hyder ichi gyfrannu mewn modd creadigol ac ymarferol at y Gymraeg a’i diwylliant heddiw.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/148646/IMG_6615.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Rydym yn falch iawn o allu cynnig ysgoloriaeth MA unwaith eto eleni a gobeithio bydd hi’n caniatáu i unigolyn disglair wireddu eu huchelgais academaidd heb ofidio am ariannu astudiaethau ôl-raddedig.”
Cynigir y cyfle i astudio rhychwant o bynciau yn ymwneud â’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru drwy'r oesoedd; beirniadaeth lenyddol; llenyddiaeth plant; sosioieithyddiaeth; a pholisïau a chynllunio ieithyddol. Mae myfyrwyr MA yr Ysgol hefyd yn derbyn cefnogaeth cyflogadwyedd sylweddol, gan gynnwys cyfnod o brofiad gwaith, er mwyn hybu eu datblygiad a dealltwriaeth broffesiynol.
Sioned Martha Davies (a raddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor) a enillodd Ysgoloriaeth MA Ysgol y Gymraeg yn 2019. Dywed: “Mae’n debyg na fuaswn wedi medru fforddio gwneud fy ngradd meistr heb gymorth yr ysgoloriaeth hon. O ganlyniad, gallaf ganolbwyntio’n llwyr ar fy astudiaethau, byw’n gyfforddus a mwynhau’r profiad o fywyd dinesig fel myfyrwraig newydd i Gaerdydd.”
Dyddiad cau'r ysgoloriaeth yw 1 Mawrth 2020. Llenwch ffurflen gais neu cysylltwch â Dr Siwan Rosser i drafod - rossersm@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2087 6287.