Marciau llawn am foddhad myfyrwyr
18 Tachwedd 2019
Mae Ysgol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi derbyn sgôr berffaith o 100% ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2019.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Ysgol dderbyn marciau llawn gan fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf. At hynny, sgoriodd yr Ysgol dros 90% mewn wyth maes thematig:
- Trefniadaeth a Rheolaeth (97%)
- Cymuned Ddysgu (95%)
- Llais y Myfyrwyr (95%)
- Cefnogaeth Academaidd (95%)
- Addysgu ar fy Nghwrs (93%)
- Cyfleoedd Dysgu (92%)
- Asesu ac Adborth (92%)
- Adnoddau Dysgu (92%)
Derbyniodd y rhaglen Anrhydedd Sengl BA yn y Gymraeg 100% mewn tri chategori (Cymorth Academaidd, Cymuned Ddysgu a Llais Myfyrwyr).
Dywedodd Dr Angharad Naylor, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Ysgol y Gymraeg: “Rydym wrth ein boddau gyda chanlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac yn diolch i'n myfyrwyr blwyddyn olaf am gymryd yr amser i ymateb. Rydym hefyd yn diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd cyson ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar y cam nesaf yn eu gyrfa.
“Rydym yn gymuned clòs a chyfeillgar ac mae perthynas arbennig rhwng y myfyrwyr a staff yr Ysgol. Gyda chyfradd ymateb o 80%, mae'r canlyniadau hyn wir yn adlewyrchu'r hyn y mae ein myfyrwyr yn ei feddwl, a byddwn yn edrych ar y data yn fanwl iawn fel y gallwn barhau i ddatblygu a chryfhau ein darpariaeth a'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein myfyrwyr ac yn gweithio gyda nhw i ddiwallu eu hanghenion. ”
Cyhoeddir Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn flynyddol. Gofynnir i israddedigion sgorio eu profiadau yn y Brifysgol ar draws sawl maes thematig sy'n ymwneud ag ansawdd addysgu, cefnogaeth academaidd, amgylchedd dysgu ac ymdeimlad cymunedol.
*Cyhoeddwyd canlyniadau NSS 2019 ym mis Gorffennaf 2019.