Myfyrwyr o’r Ysgol Fferylliaeth yn camu’n ôl mewn amser i ddathlu canmlwyddiant
18 Tachwedd 2019
Ar 8 Hydref 1919, agorodd Coleg Fferylliaeth Cymru ei ddrysau am y tro cyntaf, a chanrif yn ddiweddarach, gwnaeth y garfan bresennol o fyfyrwyr fferylliaeth roi eu gwisgoedd Edwardaidd amdanynt, tynnu’r llwch oddi ar eu padiau a’u pensiliau, a mwynhau diwrnod o ddarlithoedd a gweithdai fel y byddent wedi gwneud ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Yn ei chanfed flwyddyn, mae’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi cynllunio cyfres o ddathliadau i’w rhanddeiliaid, ei staff a’i chynfyfyrwyr, ond i’r garfan bresennol o fyfyrwyr, roeddynt am wneud rhywbeth arbennig iawn.
Cafodd staff eu gwahodd i wisgo yn ôl ffasiwn Prydain Edwardaidd a chyflwyno gwersi mewn pynciau y byddai myfyrwyr fferylliaeth wedi’u cael ym 1919. Roedd arlunio dail, dehongli Lladin, materia medica, plygu powdr a rholio pils yn weithgareddau beunyddiol, ynghyd â darlithoedd ar wenwynau a sesiwn cemeg ymarferol gydag aspirin.
Er mwyn sicrhau cywirdeb hanesyddol, manteisiodd yr Ysgol ar dalentau Briony Hudson a Heather Pardoe, hanesydd yr Ysgol a Phrif Guradur dros Fotaneg a Phaill i Amgueddfa Caerdydd, yn y drefn honno. Gan gynghori’r staff academaidd, pwysleision nhw bwysigrwydd y cyd-destun cyfoes wrth gynhyrchu cynnwys, gan roi golwg clir ar sut roedd pethau’n cael eu gwneud yn y gorffennol a sut arweinion nhw at dechnegau cyfoes.
“Mae cynifer o bethau yr un fath ag sydd wedi newid, meddai Hudson. “Mae’r sgiliau ymarferol, y proffesiynoldeb, y manylder...a’r wyddoniaeth y tu ôl i’r meddyginiaethau – nid yw’r pethau hyn wedi newid y prif egwyddorion mewn gwirionedd.”
Ynghylch y diwrnod, ychwanegodd yr Athro James Birchall, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, “roedd ein Diwrnod Camu’n Ôl mewn Amser yn gyfle bendigedig i’n staff a’n myfyrwyr ddod at ei gilydd i ddathlu ein hanes a’n cyflawniadau, ac edrych ymlaen at y ganrif nesaf o addysg fferyllol yng Nghaerdydd.”