Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg ar ymchwil ar gyfer doethuriaeth Deall esblygiad coedwigoedd glannau afon yn nhalaith Arizona

18 Tachwedd 2019

Canyon(Romy Sabathier)
Hafn gyda’r wawr © Romy Sabathier

Dyma sylwadau myfyriwr PhD Romy Sabathier am ei hymchwil yn ddiweddar yn Arizona, lle yr astudiodd effaith y newid hinsoddol a phrinder dŵr ar esblygiad coedwigoedd glannau afon.

Dechreuodd Romy Sabathier astudio ar gyfer PhD yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn 2018. Mae’i phrosiect yn ymwneud ag esblygiad coedwigoedd glannau afon rhanbarthau sych, gan roi sylw arbennig i berthynas argaeledd dŵr â chymunedau planhigion. Bydd yn helpu i ddeall effaith y newid hinsoddol a llai o ddŵr ar goedwigoedd glannau afon, gan roi gwybodaeth hanfodol i reoli ecosustemau o’r fath yn well.

Treuliodd Romy fis yn Fort Huachuca, De Arizona, yn ddiweddar i astudio ymateb amryw bethau i argaeledd dŵr yn ôl natur yr hinsawdd. Mae yn yr ardal honno amrywiaeth helaeth o ecosustemau a phlanhigion gan fod yno amryw dirweddau megis dyffryn sych, mynyddoedd ac Afon San Pedro. Roedd yn lle perffaith ar gyfer ymchwil Romy am fod coedwigoedd glannau afon, peithiau sych a choedwigoedd conwydd/derw yno.

Er gwaethaf angen codi am 4 o’r gloch y bore bob dydd i osgoi gwres yr anialwch, roedd modd iddi hel digon o ddata ar gyfer cam nesaf yr ymchwil a deall yr ardal hynod amryfal honno’n well.

Romy Sabathier
RomySabathier(1)
Romy wrth ei gwaith mesur yn ystod ei hymchwil yn Arizona © Lissa Pelletier

Meddai: “Defnyddiais ddulliau dadansoddi synhwyro o hirbell a delweddu lloeren i hel gwybodaeth fanwl am iechyd ac ehangder planhigion yn ogystal â data am y glaw, llif y ffrydiau a dyfnder dŵr yn y ddaear.

“Bydda i’n defnyddio’r amryw ddata ecoleg a’r samplau o goed a gasglais i ddadansoddi iechyd a thyfiant coedwigoedd Arizona a California dros y degawdau diwethaf hyn. Bydd hynny’n fy ngalluogi i ganfod ac asesu ymateb yr ecosustem honno i brinder dŵr a rhai bygythiadau ac effeithiau eraill a allai godi.”

Bydd Romy yn rhoi canlyniadau ei hymchwil yn  Fort Huachuca i’r gwersyll milwrol yno i’w helpu i gadw’r coedwigoedd glannau afon a’r hafnau yn wyneb y newid hinsoddol.

Mae croeso ichi gysylltu â Romy i ddysgu rhagor am ei doethuriaeth: sabathierr@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.