Sylw i’r stori fer
15 Tachwedd 2019
Yn ddiweddar, lansiodd y darlithydd Dr Rhiannon Marks adnodd addysgiadol newydd sy’n canolbwyntio ar y Stori Fer Gymraeg.
Mae’r adnodd electronig, ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’, i’w weld ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Llyfrgell y Coleg, ac yn cynnwys cyfweliadau gyda chwe awdur cyfoes ym maes y stori fer Gymraeg sef Fflur Dafydd, Jon Gower, Aled Islwyn, Caryl Lewis, Llŷr Gwyn Lewis a Mihangel Morgan.
Mae’n benllanw prosiect, a ariannwyd gan y Coleg, a ddechreuodd yn 2017. Fel rhan o weithgarwch y prosiect trefnodd Dr Marks symposiwm yn Ysgol y Gymraeg yn y gobaith o danio a datblygu trafodaeth gyfoes ynghylch y Stori Fer Gymraeg. Cafodd yr adnodd newydd ei ddatblygu yn sgil y symposiwm hwnnw a ddenodd amryw o academyddion ac ymarferwyr creadigol at ei gilydd.
Mae lansio ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’ hefyd yn cyd-fynd â charreg filltir bwysig yn hanes y stori fer Gymraeg gan ei bod yn 70 mlynedd ers cyhoeddi’r gyfrol Crefft y Stori Fer a olygwyd gan Saunders Lewis.
Dywed Dr Marks: “Rwyf wir yn gobeithio y bydd yr adnodd newydd yn fodd o ailedrych ar y maes llenyddol pwysig hwn, sydd wedi ei anwybyddu’n feirniadol ers cenhedlaeth a mwy. Mewn maes lle ceir prinder deunydd academaidd, gobeithio y bydd yr adnodd hwn o ddefnydd i ystod o bobl gan gynnwys disgyblion blynyddoedd 12 a 13 ynghyd â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n astudio ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth gyfoes neu theori lenyddol.”