Ewch i’r prif gynnwys

Y Meddwl yn yr Ogof

14 Tachwedd 2019

Archaeoleg arbrofol yn helpu i ddatrys dirgelwch creu peintiadau mewn ogofâu yng Ngŵyl Bod yn Ddynol

Peintiadau mewn ogofâu, sy’n filoedd o flynyddoedd oed, yw un o’r ffurfiau celf cynharaf a mwyaf dirgel o bosib, ond sut cawson nhw eu creu gan ein cyndeidiau cynhanes mewn mannau mor dwfn a thywyll?

Bydd y cyfranogwyr lwcus sy’n cymryd rhan yn The Mind in the Cave yn archwilio hynny gyda mwgwd dros eu llygaid mewn tri lleoliad yn y Deyrnas Unedig fel rhan o Ŵyl Bod yn Ddynol/Being Human ym mis Tachwedd.

Mewn sesiynau ymarferol a ddyfeisiwyd gan academyddion o Brifysgol Caerdydd a’r artist Paul Evans, bydd y cyfranogwyr yn defnyddio siarcol a deunyddiau eraill oedd ar gael ddegau o filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Y nod yw cymharu ansawdd a ffurf llinellau â pheintiadau gwreiddiol mewn ogofâu.  Oedd artistiaid yr ogofâu yn yr hen amser yn defnyddio’u cof i greu celf, neu oedd ganddyn nhw frasluniau ar ôl sylwi ar bethau?  Sut a ble bydden nhw’n ymarfer?

Cynhelir y sesiynau yn rhai o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac Amgueddfa Weston Park yn Sheffield.

Dywedodd Jacqui Mulville, Athro Bioarchaeoleg a greodd  Guerrilla Archaeology:

“Gan ddefnyddio’r un mecanweithiau biolegol - llygaid a dwylo ac ymennydd - â’n cyndeidiau o’r hen amser, bydd Y Meddwl yn yr Ogof yn cynnig safbwynt newydd arbrofol ac arloesol, sy’n addo ailddarganfod y cyfrinachau y tu ôl i’r ysbrydoliaeth a’r methodolegau a arweiniodd at greu’r delweddau rhyfeddol hyn.  Bydd Y Meddwl yn yr Ogof yn archwilio delweddau haniaethol a ffigurol, ac yn cynnig ‘llinellau ymholi’ newydd yn yr ystyr buraf.”

Bydd pob digwyddiad yn cynnwys gweithdy lluniadu arbrofol dau gam dan arweiniad artist, yn rhoi sylw i ffurfiau haniaethol a chynrychioliadol y cafwyd hyd iddynt yng nghelf hynafol ogofâu.

Bydd y cyfranogwyr yn creu darluniau tra bod mwgwd dros eu llygaid, er mwyn annog ‘ffenomena entoptig’ - y siapiau a’r ffurfiau dirgel a welwn yn y tywyllwch pan fydd ein hamrannau ar gau - ac yn defnyddio’u cof i dynnu llun anifeiliaid.

Cynhelir Y Meddwl yn yr Ogof yn Amgueddfa Weston Park , Sheffield ddydd Sadwrn 16 Tachwedd (11am-4pm),  Parc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin ddydd Sul 17 Tachwedd (11am-3pm) a Gerddi Dyffryn , Bro Morgannwg ddydd Sadwrn 23 Tachwedd (11-4pm). Mae’r sesiynau eu hunain yn ddi-dâl, ond mae’n bosibl y bydd tâl mynediad.

Dilynwch #MindInTheCave19 i gael y newyddion diweddaraf.

Being Human yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y Deyrnas Unedig.  Bydd gŵyl 2019 (14-23 Tachwedd) hefyd yn cynnwys deg Meddyliwr Cenhedlaeth Newydd eleni, yn eu plith yr hanesydd Dr Emily Cock o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Rhannu’r stori hon