Ewch i’r prif gynnwys

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd Astudiaethau Affricanaidd ryngwladol yn 2020, a dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd hon gael ei chynnal yng Nghymru.

14 Tachwedd 2019

Y rhai ddaeth i gynhadledd ASAUK 2018 ym Mhrifysgol Birmingham.
Y rhai ddaeth i gynhadledd ASAUK 2018 ym Mhrifysgol Birmingham. Credyd llun: Victoria Beddoes

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd Astudiaethau Affricanaidd ryngwladol yn 2020, a dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd hon gael ei chynnal yng Nghymru.

Cynhelir wythfed gynhadledd ar hugain Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU, sy’n digwydd pob dwy flynedd, rhwng 8 a 10 Medi 2020, a bydd yn dod ag ysgolheigion o Affrica o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys hanes, archaeoleg, gwyddor wleidyddol, llenyddiaeth, ieithoedd a’r gyfraith, ynghyd. Disgwylir y bydd academyddion o fwy na 70 o wledydd yn dod i’r gynhadledd.

Mae Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU 2020 wedi cael cymorth ar ffurf bwrsariaethau gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd; Yr Academi Brydeinig; a Sefydliad Harry Frank Guggenheim.

Dyfernir gwobr llyfr Fage ac Oliver a gwobr traethawd hir Audrey Richards yn y gynhadledd, ac mae Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU hefyd yn dyfarnu ei gwobr i Affricanydd Nodedig.

Dyfernir gwobr Fage ac Oliver i awdur gwaith ysgolheigaidd gwreiddiol rhagorol a gyhoeddwyd am Affrica yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Roedd John Donnelly Fage (1921-2002) a Roland Oliver (1923-2014) yn arloeswyr ym maes Astudiaethau Affricanaidd ym Mhrydain. Ar ôl degawd yn addysgu ym Mhrifysgol Gold Coast, treuliodd weddill ei yrfa ym Mhrifysgol Birmingham lle sefydlodd Canolfan Astudiaethau Gorllewin Affrica (CWAS). Gydag Oliver, sefydlodd The Journal of African History (1960). Bu Oliver yn addysgu yn yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (1948-1986). Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU (1963) ac roedd ganddo rôl hanfodol wrth sefydlu’r Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica.

Dyfernir gwobr Audrey Richards bob dwy flynedd am y traethawd doethurol gorau ym maes Astudiaethau Affricanaidd a arholwyd yn llwyddiannus mewn sefydliad addysg uwch ym Mhrydain yn ystod y ddwy flynedd galendr yn union cyn cynhadledd nesaf Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU. Roedd Dr Audrey Richards, CBE (1899-1984) yn anthropolegydd cymdeithasol arloesol ym Mhrydain a weithiodd yn bennaf yn Affrica Is-Sahara, yn benodol Zambia, De Affrica ac Uganda. Bu’n ddarlithydd ac yn gyfarwyddwr yn Ysgol Economeg Llundain (LSE), Witwatersrand, Makerere a Chaergrawnt a hi oedd ail lywydd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU.

Cynhelir y gynhadledd gan Ganolfan y Gyfraith a Chyfiawnder yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae’r Ganolfan, a sefydlwyd yn 2016, yn cefnogi rhaglen ymchwil fywiog, gan gynnwys carfan o ymchwilwyr doethurol rhyngwladol a ariennir yn llawn. Mae Canolfan y Gyfraith a Chyfiawnder, sydd â phwyslais penodol ar wledydd deheuol y byd ac sydd wedi’i llywio gan safbwyntiau ôl-drefedigaethol a gwrth-drefedigaethol, wedi ymrwymo i ymwneud ag ysgolheigion o’r de ar draws disgyblaethau. Mae’n gartref i glinig y Gyfraith Pro-Bono Rhyngwladol sy’n gweithio gyda chyfreithwyr yn y DU, yn India ac yn Nwyrain Affrica.

“Rydym am roi croeso cynnes i gynadleddwyr cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU i ddinas Cymru ac i Ganolfan y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – cymuned ddelfrydol i gynnal, i ddathlu ac i fanteisio ar safbwyntiau trawsddisgyblaethol a mewnwelediadau dybryd a fydd yn cael eu creu wrth i nifer o ysgolheigion rhyngwladol o Affrica ddod at ei gilydd.”

Yr Athro Damian Walford Davies Y Dirprwy Is-Ganghellor

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU, Yr Athro Ambreena Manji o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, “Rwy’n hynod falch y bydd cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf. Dyma adeg bwysig iawn i Astudiaethau Affricanaidd yn y DU wrth i ni geisio herio patrymau ers tro o gynhyrchu gwybodaeth anghyfartal a’i rhannu ar draws ein disgyblaethau. Byddem wrth ein boddau pe bai’r gynhadledd yn arwain at brosiectau newydd ar y cyd wrth i gydweithwyr o dros 70 o wledydd ddod i Gaerdydd y flwyddyn nesaf.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd ar wefan Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU a thrwy ddilyn y Gymdeithas ar Twitter @ASAUK_News

Rhannu’r stori hon