Prifysgol Caerdydd yn llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA)
13 Tachwedd 2019
Drwy lofnodi’r datganiad, mae’r Brifysgol yn ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo’r defnydd cyfrifol o fetrigau a dangosyddion meintiol o ymchwil, ac asesu rhagoriaeth ymchwil drwy broses o adolygu’n ansoddol yn hytrach na defnyddio mesurau procsi o ansawdd, fel cyhoeddiadau mewn cyfnodolion â ffactor effaith uchel.
Sefydlwyd gweithgor er mwyn ystyried y gwaith fyddai ei angen er mwyn llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil. Yr Athro Claire Gorrara, Deon y Brifysgol dros Ymchwil, yr Amgylchedd a Diwylliant sy’n ei gadeirio ac mae’n cynnwys aelodau o staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol. Dywedodd: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, canfu’r grŵp yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud er mwyn gweithredu egwyddorion y Datganiad ar Asesu Ymchwil. Llunion ni gynllun gweithredu manwl er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’r Brifysgol yn cydymffurfio â’r Datganiad. Gan adeiladu ar arferion da oedd yn bodoli eisoes yn y Brifysgol, newidion ni’r Canllawiau ar gyfer Dyrchafiadau Academaidd i staff, sydd bellach yn canolbwyntio ar asesu ansawdd amrywiaeth o allbynnau ymchwil. Mae’r hyfforddiant gofynnol ar-lein ynghylch Côd Ymarfer Unplygrwydd Ymchwil y Brifysgol a Gonestrwydd Ymchwil bellach yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ynglŷn ag egwyddorion y Datganiad.”
Yn rhan o’i hymrwymiad parhaol i wneud ei hymchwil yn agored, mae’r Brifysgol wedi penodi Karen Desborough yn Swyddog Asesu Ymchwil Gyfrifol. Bydd Karen yn cefnogi’r gwaith o roi’r cynllun gweithredu ar waith ar gyfer y Datganiad, fydd yn cynnwys cyflwyno sesiynau hyfforddiant a gwybodaeth ynghylch asesu ymchwil yn gyfrifol, a monitro cydymffurfiaeth ag egwyddorion y Datganiad. Cronfa Cefnogaeth Strategol Sefydliadol Ymddiriedolaeth Wellcome Prifysgol Caerdydd sy’n ariannu’r swydd.
Llofnododd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter, y datganiad ar ran y Brifysgol. Dywedodd: “Drwy lofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil, mae Prifysgol Caerdydd yn cadarnhau ei hymrwymiad i wneud yn siŵr bod allbynnau ymchwil yn cael eu hasesu ar sail eu teilyngdod, gan osgoi metrigau ymchwil.
Mae hefyd yn cadarnhau ein hymrwymiad i gydnabod yr ystod amrywiol o allbynnau ymchwil sy’n cael eu cynhyrchu gan ein cymuned ymchwil wrth wneud penderfyniadau ynghylch cyllido, recriwtio a dyrchafu. Mae ein hymrwymiad i’r Datganiad yn adlewyrchu’r pwysigrwydd yr ydym yn ei roi ar ymchwil gynhwysol a gwyddoniaeth tîm, yn unol â’n dymuniad i gefnogi a gwella’r cyfleoedd gyrfaol i’n holl staff, ar bob cam yn eu gyrfaoedd.”