Croesawu dau ddarlithydd newydd i gymuned yr Ysgol
11 Tachwedd 2019
Mae Ysgol y Gymraeg wedi croesawu dau aelod newydd o staff i’w chymuned academaidd.
Ymunodd Dr David Callander, a raddiodd o Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, a Dr Elen Ifan, a raddiodd o Brifysgol Bangor, â’r Ysgol ym mis Medi 2019. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad academaidd a phroffesiynol gyda nhw, gan gynnwys cyfnodau o astudio a dysgu yn yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
Arbenigwr ar lenyddiaeth ganoloesol yw Dr Callander ac mae ei waith yn pontio’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth Arthuraidd, testunau Lladin canoloesol o Gymru (yn enwedig bucheddau’r seintiau) ac agweddau ôl-ganoloesol at lenyddiaeth ganoloesol.
Meddai Dr Callander: “Mae wedi bod yn fraint aruthrol cael ymuno ag Ysgol mor gyfeillgar a chroesawgar. Dim ond ar ddiwedd mis Medi y dechreuais i fel darlithydd ond mae pawb wedi gwneud imi deimlo’n hollol gartrefol. Fel un sy’n gweithio ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol, rwy’n falch o ddod yn aelod o Ysgol a Phrifysgol sy’n arwain y byd ym maes astudiaethau canoloesol gydag ysgolheigion eraill fel yr Athro Sioned Davies a Dr Dylan Foster Evans sy’n astudio cyfoeth y cyfnod hwn.”
Astudiodd Dr Elen Ifan am radd israddedig ym Mhrifysgol Bangor gan gwblhau doethuriaeth yno yn 2017. Mae ei thraethawd ymchwil yn ystyried y berthynas rhwng gwaith y bardd T. Gwynn Jones a cherddoriaeth. Mae’r berthynas rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth a chyfieithu llenyddol a cherddorol o ddiddordeb arbennig i Dr Ifan.
Dywed: “Rwy’n gyffrous iawn wrth ymuno ag Ysgol y Gymraeg, ac yn prysur ymgartrefu’n ôl yn y byd academaidd wedi cyfnod o weithio i’r BBC. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y berthynas rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth, gan gynnwys cyfieithiadau o eiriau caneuon a sut y gall astudio gosodiad cerddorol o wahanol destunau gyfoethogi ein dealltwriaeth a’n darlleniad ohonynt."