Cenhedlaeth ’89: Edrych ar y Chwyldro Melfed 30 mlynedd wedyn
12 Tachwedd 2019
Cyfle i bobl gysylltiedig gofio chwyldro Tsiecoslofacia a thranc y drefn Gomiwnyddol mewn achlysur arbennig
Cenhedlaeth ers dymchwel rheol un-blaid y Comiwnyddion yn Tsiecoslofacia, bydd pwysigion yn dod ynghyd yng Nghaerdydd i sôn am yr hyn ddigwyddodd dros 10 diwrnod yn ystod mis Tachwedd 1989.
Wrth nodi’r pen blwydd pwysig hwn gyda rhai oedd yno, nod Cenhedlaeth ’89 yw helpu pobl i ddeall cymhlethdod chwyldroadau 1989 Ewrop yn well.
Bydd Cenhedlaeth '89 yn dod â rhai o bobl allweddol 1989 ynghyd.
Byddwn ni’n clywed am brofiad nifer o wleidyddion, diplomyddion a newyddiaduron Tsiec a Slofac oedd yng nghanol y chwyldro naill ai’n fyfyrwyr, actorion, gwrthwynebwyr, sylfaenwyr mudiadau chwyldroadol, aelodau o’r Blaid Gomiwnyddol neu negodwyr proses newid trefn. Bydd y rhai na allan nhw fod yn bresennol yn sôn am eu profiad trwy fideo neu lythyr.
Bydd nifer o Tsieciaid a Slofaciaid yn trafod eu rolau allweddol yn y wlad honno ym 1989 gan gynnwys un o brif aelodau pwyllgor streiciau’r myfyrwyr chwyldroadol, un o gynrychiolwyr y Blaid Gomiwnyddol a gafodd ei threchu a llysgenhadon cyntaf Gwlad Tsiec a Slofacia ar ôl 1989.
Yr Athro Mary Heimann, awdur Czechoslovakia: The State that Failed (Yale University Press) ac Athro'r Gyfraith Jiří Přibáň, awdur The Defence of Constitutionalism: The Czech Question in Post-National Europe (Karolinum) oedd (past) / fydd (future) y cadeiryddion.
David Green, Darlithydd Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Rhyngwladol Glasgow, a Michal Pullmann, Darlithydd Cyswllt Hanes Cymdeithasol Modern ym Mhrifysgol Charles, Prâg, fydd yn holi’r tystion.
Heb yr un farwolaeth, digwyddodd y Chwyldro Melfed dros 10 diwrnod cyffrous rhwng protest roedd y wladwriaeth wedi caniatáu i fyfyrwyr ei chynnal un dydd Gwener a llywodraeth dealltwriaeth genedlaethol a arweiniodd at drefn newydd ychydig dros wythnos wedyn.
Yn sgîl dicter y bobl a phrotestiadau am guro myfyrwyr ar 17eg Tachwedd (Diwrnod Rhyngwladol y Myfyrwyr), ymffurfiodd mudiadau chwyldroadol o’r enw’r Fforwm Dinesig a Phobl yn erbyn Trais cyn pen rhai dyddiau. Yn nghanol y protestiadau cynyddol, ymddiswyddodd aelodau llywodraeth Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia i gyd cyn i lywodraeth dealltwriaeth genedlaethol gael ei sefydlu gan arwain at drawsnewid heddychlon o reol Gomiwnyddol i weriniaeth.
Awdur Czechoslovakia: The State That Failed, Athro Hanes Modern Mary Heimann sydd wedi trefnu’r cyfarfod pwysig hwn o bobl a greodd hanes.
30 mlynedd ar ôl y Chwyldro Melfed, meddai’r Athro Heimann: “Gan fod byrbwylltra gwleidyddol yn y Deyrnas Gyfunol, UDA a chanolbarth Ewrop ar hyn o bryd, mae’n briodol ein hatgoffa ein hunain am rym y werin i wrthsefyll heb drais arweinyddion sy’n honni ar gam eu bod yn siarad drostyn nhw.”
Noddwyd yr achlysur (past) / Mae’r achlysur hwn wedi’i noddi (present) gan Ganolfan y Gyfraith a’r Gymdeithas, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a Llysgenhadaeth Gweriniaeth Tsiec, Llundain.
Cynhelir Cenhedlaeth ’89 yn Nheml Heddwch, Caerdydd, ddydd Gwener 22ain Tachwedd 2019, genhedlaeth ar ôl Chwyldro Melfed 1989 yn Tsiecoslofacia. Mae’r achlysur hwn yn rhad ac am ddim ac mae modd cadw lle trwy Eventbrite. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch #Generation89.
Mae’r Brifysgol yn cofio nifer o ddigwyddiadau o bwys hanesyddol yn ystod hydref 2019 gan gynnwys Cwymp Mur Berlin 2019 i ddathlu diwedd y Llen Haearn a arweiniodd at gau’r rhwyg rhwng gorllewin a dwyrain Ewrop 30 mlynedd yn ôl.