Lansio adnodd ieithyddol i actorion Cymraeg
4 Rhagfyr 2015
Mae Dr Iwan Wyn Rees, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, wedi lansio adnodd arbennig i gynorthwyo actorion a sgriptwyr Cymraeg.
Bwriad yr adnodd yw helpu actorion a sgriptwyr i ymgyfarwyddo â gwahanol amrywiadau tafodieithol a hefyd i’w defnyddio yn ymarferol wrth eu gwaith bob dydd.
Mae’r adnodd yn cynnwys clipiau fideo a sain o dafodieithoedd amrywiol o bob cwr o Gymru. Daw’r clipiau o dair ffynhonnell benodol: o gyfres gyntaf Noson Ar Lafar (Cwmni Da) a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 2011; o gyfweliadau a recordiwyd gan Dr Rees yn Nyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn yn Ionawr 2015, ac o fideo a oedd yn cyd-fynd â llyfryn Tafodiaith yn y Gymraeg (1996) Gwenllian M. Awbery.
Yn ogystal â chlipiau o amrywiadau Cymraeg o ardaloedd gwahanol, ceir enghreifftiau hefyd o siaradwyr o wahanol genedlaethau. I gyd-fynd â’r clipiau hyn, mae Dr Rees wedi llunio canllawiau manwl yn tynnu sylw at elfennau ieithyddol penodol, e.e. yr eirfa, y gystrawen a’r seiniau.
Dywed Dr Rees ei fod yn gobeithio y bydd rhai o’r clipiau hyn yn addas ar gyfer dramâu hanesyddol a chyfoes. “Dwi’n falch iawn fod yr adnodd bellach wedi cael ei lansio, ac yn gobeithio y bydd yr adnodd yn arf defnyddiol i sgriptwyr ac actorion wrth iddyn nhw ddod â’n tafodieithoedd ni’n fyw.
“Mae gweithio ar y prosiect yma wedi rhoi cyfle imi dderbyn cyngor gan ddynwaredwyr talentog fel Rhian Morgan, Caryl Parry Jones, Sera Cracroft ac Emyr ‘Himyrs’ Roberts. Dyma bobl sy’n defnyddio tafodieithoedd wrth eu gwaith bob dydd, ac sy’n rhannu’r un brwdfrydedd â mi. Mae hynny wedi bod yn hwyl ac yn bleser.”
Grant Bach oddi wrth y Coleg Cymraeg a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl, ac mae’r adnodd i’w gael yn Llyfrgell Adnoddau y Coleg.