Matthew Quinn yn cyflwyno yn nigwyddiad Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
15 Hydref 2019
Bu Cymrawd Gwadd Nodedig Mannau Cynaliadwy, Matthew Quinn, yn cyflwyno yn nigwyddiad “Llywio dyfodol Cymru wledig: Beth yw anghenion tystiolaeth cymdeithas sifil wledig?”; digwyddiad a gynhelir gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae polisi gwledig yng Nghymru yn wynebu un o’i ddiwygiadau mwyaf sylweddol mewn degawdau wrth i Lywodraeth Cymru ystyried opsiynau ar gyfer polisi datblygu gwledig a chyllid ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Rhoddodd Matthew gyflwyniad ar gyd-destun polisi sut mae Gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin a pholisïau cydlyniant a datblygu rhanbarthol Ewropeaidd yn fygythiad, ond hefyd yn cynnig cyfle.
Ceir pryderon y gallai pwysau gwleidyddol arwain at gefnogaeth ar gyfer datblygiad cefn gwlad a chymunedau amaethyddol yn cael eu gwasgu, a cholli cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd o weithredu. Ceir pryderon nad yw lleisiau cymunedau gwledig yn cael eu clywed ddigon mewn trafodaethau polisi, gyda symudiadau diweddar i greu rhwydwaith wledig i gryfhau cynrychiolaeth cymdeithas sifil wledig yng Nghymru.
Bu’r digwyddiad yn edrych ar sut y gall ymchwilwyr sy’n astudio Cymru wledig gyfrannu at y broses hon drwy weithio gyda grwpiau cymdeithas sifil i nodi problemau, datblygu atebion a chynnig tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau.