Dadorchuddio wyneb dynol trawsgludo Prydeinig
8 Tachwedd 2019
Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad Facing History ar gyfer gŵyl genedlaethol y dyniaethau
Mae Facing History yn archwilio sut roedd y troseddwyr a anfonwyd o Brydain i Awstralia yn edrych wrth i'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd gynnal digwyddiad arbennig fel rhan o Being Human 2019, unig ŵyl dyniaethau genedlaethol y DU.
Bydd y digwyddiad yn archwilio'r amrywiaeth o ran wynebau, hil, oed, rhywedd ac anabledd ymhlith troseddwyr a ddihangodd yn Ne Cymru Newydd yn y 1830au.
Bydd Facing History yn defnyddio disgrifiadau manwl o'r troseddwyr a ddihangodd, a gyhoeddwyd mewn papurau newydd yn Ne Cymru Newydd yn y 1830au, i dorfoli portreadau o unigolion a aeth drwy system gyfreithiol Prydain i wladfeydd Awstralia.
Gan ddefnyddio disgrifiadau papur newydd swyddogol o datŵs, creithiau a nodweddion eraill, bydd pum portread geiriol - gan gynnwys o leiaf un plentyn ac un troseddwr o Gymru - yn helpu i danio'r dychymyg, diolch i bortreadau a gomisiynwyd gan yr artist lleol Rosemary Baker.
Bydd y cyfranogwyr yn dysgu mwy am y bobl hyn gyda manylion bywgraffyddol yn Gymraeg a Saesneg a bonws ar ffurf sgwrs fer gan yr hanesydd y tu ôl i'r digwyddiad, Dr Emily Cock, brodor o Gol Gol, yn Ne Cymru Newydd am 6pm.
Ar ôl cael cipolwg ffres ar y gorffennol cuddiedig hwn, bydd y cyfranogwyr yn llunio eu portread eu hunain o droseddwr i wneud wynebau anghofiedig o’r cyfnod hwn yn hanes Prydain yn fwy personol o lawer i’n hoes ni, sydd â chysylltiadau byd-eang 24/7.
Mae'r hanesydd y tu ôl i ddigwyddiad Being Human, Dr Emily Cock, yn un o Feddylwyr y Genhedlaeth Newydd y DU eleni. Esboniodd ysbrydoliaeth a nodau digwyddiadau Caerdydd:
"Gan gyd-fynd â thema 'darganfod' Being Human eleni, bydd Facing History yn taflu goleuni ar yr amrywiaeth rhyfeddol ymhlith tua 160,000 o bobl a drawsgludwyd i wladfeydd cosb Awstralia. Mae pobl o Brydain ac Awstralia bob amser yn syn o glywed bod Prydain yn trawsgludo plant mor ifanc â 9 oed, pobl liw o Brydain ac yn fyd-eang, yn ogystal â phobl ag amrywiol anableddau, a gaiff eu dileu o'r cofnod hanesyddol yn rhy aml."
"Rwyf i hefyd yn gobeithio y caiff y cyfranogwyr ymdeimlad gwirioneddol o'r broses ddehongli sydd ei hangen ar haneswyr yn eu hymarfer bob dydd."
Caiff y portreadau swyddogol, yn cynnwys y rhai torfol, eu cadw yn y lleoliad am bythefnos, gyda'r opsiwn i gyfrannu'n ddigidol ar y noson neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #FacingHistoryCardiff.
Mae Dr Emily Cock yn gyd-olygydd Approaches to facial difference: past and present ac awdur Rhinoplasty and the nose in early modern British medicine and culture, ac yn Gymrawd Ymchwil Gyrfa Gynnar Leverhulme ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar y prosiect tair blynedd Wynebau Bregus: Anffurfio ym Mhrydain a’i Gwladfeydd (1600-1850).
Fel rhan o raglen genedlaethol dros 10 diwrnod o syniadau mawr, trafodaethau mawr a digwyddiadau difyr i bob oed, nod Facing History yw hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil y dyniaethau yng Nghymru, gan helpu i ddangos bywiogrwydd a pherthnasedd hyn heddiw ac arddangos sut mae'r dyniaethau yn ein helpu i’n deall ein hunain, ein perthnasoedd gyda phobl eraill a'r heriau rydym ni'n eu hwynebu mewn byd sy'n newid.
Y llynedd roedd Being Human yn cynnwys rhaglen o 250 o ddigwyddiadau mewn 56 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, gyda chyfanswm cynulleidfa o ddeutu 20,0000.
Dewiswyd Facing History Cardiff i fod yn rhan o Being Human gan drefnwyr yr ŵyl, yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Cyngor Prydeinig.
Cynhelir Facing History ddydd Gwener 15 Tachwedd yn Little Man Coffee yng Nghaerdydd, CF102EE (17:30- 19:00). Croeso i bawb alw heibio ac ymuno yn y digwyddiad hwyliog hwn. Gallwch archebu ymlaen llaw ond nid yw hyn yn hanfodol. I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch #FacingHistoryCardiff.