Dathlu casglwr hynod ‘llyfrgell amgen Cymru’
6 Tachwedd 2019
Casglodd Enoch Salisbury “y casgliad mwyaf cynhwysfawr am Gymru a’i phobl a wnaethpwyd erioed”: 200 mlynedd ers ei eni, mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu ei gyfraniad unigryw i ddiwylliant Cymru.
Ganed Enoch Salisbury ar Dachwedd y 7ed, 1819, ac yn ystod ei oes fe gasglodd dros 18,000 o lyfrau am yr iaith Gymraeg, ein diwylliant, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth a llawer mwy.
Casgliad Salisbury yw’r esiampl gynharaf o gasgliad o lyfrau yn benodol am Gymru, ond yn anffodus daeth ei orchwyl i ben yn gynt na’r disgwyl.
Er gwaethaf ei enwogrwydd, methodd Salisbury adeiladu llyfrgell genedlaethol – aeth y fraint honno i Aberystwyth rai blynyddoedd wedyn – ac aeth yn fethdalwr.
Gwahoddir y cyhoedd i ddigwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd, ble cedwir y casgliad heddiw, i ddathlu beth fyddai’n ben blwydd 200 ar Salisbury.
Mae’n gasgliad sy’n cynnwys uchafbwyntiau fel cyfrol brin iawn am hanes pobl dduon yng Nghymru, llyfrau ymadroddion i dwristiaid Seisnig oes Fictoria, a sgribls un o ffugwyr ac arloeswyr diwylliannol enwocaf Cymru.
Dywedodd Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau’r Brifysgol, Alan Vaughan Hughes: “Mae pobol wedi gweld Salisbury fel rhyw ffigwr braidd yn ecsentrig dros y blynyddoedd – ond roedd o’n llawer mwy na hynny.
“Fe welodd Salisbury bod angen dechrau casglu llyfrau am Gymru, ymhell cyn bodolaeth ein sefydliadau cenedlaethol. A mi oedd ganddo’r weledigaeth – a’r arian – i fynd ati ei hun.
Dyma rai o uchafbwyntiau’r casgliad, sy’n cynnwys llyfrau yn Gymraeg a Saesneg:
- Hanes Caethwasiaeth William Hall: llyfr ble mae William Hall yn adrodd stori ei fywyd – o ddianc o gaethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau, i ymgartrefu yng Nghaerdydd ym 1862. Dim ond un copi arall o’r gyfrol sy’n bodoli – a honno mewn llyfrgell yn Chicago – sy’n ei wneud yn ddarn prin iawn o hanes pobl dduon Cymru. Mae’n debygol mai ar Stryd Biwt yn y brifddinas yr argraffwyd y gwaith.
- Llawlyfrau Twristiaid Cynnar: Cyhoeddwyd y ‘Welsh Interpreter’ ym 1838, i roi cyngor i deithwyr Seisnig i Gymru “who may wish to make themselves understood by the peasantry during their rambles”. Mae’r llyfr yn llawn ymadroddion hanfodol i’r teithiwr Seisnig, fel “Eilliwch fi!”, “Cymmerwch ofal gyda y pendefigesau” a “Fedrwch chi gael i mi ychydig o ystrewlwch?” – ond yn rhyfedd iawn, mae “Os gwelwch yn dda” yn absennol, a “Diolch yn fawr” wedi’i guddio ar dudalen 56!
- Sgribls enwog: Casglodd Salisbury lyfrgell enfawr – dros 18,000 o lyfrau – o gyfrolau ‘bob dydd’ a phamffledi, i gyfrolau cain, prin. Mi oedd hefyd yn casglu llyfrau oedd yn arfer eiddo i enwogion Cymreig. Dros y blynyddoedd, mae archifwyr y brifysgol wedi canfod nodiadau reit flin yn rhai o’r llyfrau, yn llawysgrifen neb llai na Iolo Morganwg – arch ffugiwr llenyddol a thad ysbrydol Gorsedd y Beirdd. Mewn un gyfrol gofiadwy, mae Iolo’n sgrifennu nodiadau beirniadol iawn dros farddoniaeth ei ffrind, David Richards, gan nodi mai “Budredd tommenllyd yw iaith y llyfr hwn.”
O ganlyniad i’w gasglu brwd, aeth Salisbury yn fethdalwr, a gorfod iddo werthu ei gasgliad cyfan. Wrth lwc, roedd Prifysgol newydd agor yng Nghaerdydd, ac angen llyfrgell arni. Achubwyd y casgliad yn gyfan diolch i waith ysgolheigion a dynion busnes lleol, gan gynnwys y masnachwr enwog James Howell.
Cludwyd y casgliad i Gaerdydd ym 1886 gyda chryn seremoni – mewn trên dosbarth cyntaf wedi’i archebu’n arbennig ar gyfer yr achlysur, gyda phob cerbyd yn llawn dop o lyfrau prin.
Dywedodd Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan allweddol yn y traddodiad ysgolheigaidd Cymreig, ac mae Casgliad Salisbury wedi bod yn sylfaen i’r gwaith hwnnw ers 1886. Mae’n gaffaeliad a thrysorfa i’r sawl sydd am astudio ein llenyddiaeth, ein bywyd gwleidyddol, ein llenyddiaeth a hanes ein cymunedau.
“O’r dyddiau cynnar, pan gyrhaeddodd trên llawn llyfrau prin yma yng Nghaerdydd, hyd at ymchwil arloesol heddiw ym meysydd meddyginiaeth, gwleidyddiaeth a thechnoleg ddigidol, rydym wedi ein hymrwymo i ddeall Cymru’n well, a rhannu’r hyn yr ydym wedi’i ddarganfod â’r byd.
“Rydym yn hynod o falch o Gasgliad Salisbury, ac yn falchach fyth ei fod yn adnodd sydd ar agor i bawb. Beth bynnag eich cefndir, os oes gennych ddiddordeb yn hanes a diwylliant cyfoethog Cymru, mae’r casgliad hwn i chi.”
Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd y cyhoedd i ddathlu 200 mlwyddiant Salisbury mewn digwyddiad arbennig yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, Rhodfa Colum, am 18:00 ar 7 Tachwedd. Cartref parhaol y casgliad yw’r Brifysgol, a mae ar agor i’r cyhoedd.