Cyngor arbenigol am wasanaethau iechyd meddwl
4 Rhagfyr 2015
Cyfle i drigolion cymuned yng Nghaerdydd sy'n ceisio gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl gwrdd ag arbenigwyr, wyneb yn wyneb, fel rhan o brosiect y Brifysgol
Cynhelir Diwrnod Lles ac Iechyd Meddwl ym Mhafiliwn Bowlio Grange yn Grangetown ar 7 Rhagfyr, mewn ymateb i syniadau a gynigiwyd gan gynrychiolwyr yn y gymuned.
Bydd y digwyddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth i bobl am y gwasanaethau lles ac iechyd meddwl sydd ar gael, a beth i'w ddisgwyl os bydd iechyd meddwl yn effeithio arnynt.
Mae'n rhan o brosiect ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol, sy'n meithrin partneriaeth hirdymor gyda thrigolion Grangetown er mwyn gwneud yr ardal yn lle gwell byth i fyw ynddi.
Mae Alicia Stringfellow a Gemma Stacey-Emile, darlithwyr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi ymuno â'r Porth Cymunedol ar gyfer y digwyddiad, sy'n cynnwys darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl fel Hafal, Nexus, Sefyll a Solace.
Dywedodd Ms Stacey-Emile: "Y diben yw cynnig digwyddiad anffurfiol lle mae aelodau o'r gymuned yn teimlo'n ddiogel i ymgysylltu a gofyn cwestiynau drostynt eu hunain neu ar ran eraill, mewn perthynas â lles ac iechyd meddwl mewn amgylchedd lleol ac anffurfiol.
"Rydym wedi cysylltu â thrawstoriad o ddarparwyr iechyd meddwl, o bob arbenigedd, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector/statudol ac anstatudol, er mwyn i ni fod yn wrthrychol a chynhwysol.
Ychwanegodd Ms Stringfellow: "Ar ôl y digwyddiad, rydym yn gobeithio y bydd aelodau o'r gymuned yn teimlo bod ganddynt yr wybodaeth angenrheidiol, a'u bod wedi'u grymuso ynglŷn â pha ddewisiadau sydd ganddynt o ran eu lles a'u hiechyd meddwl eu hunain ac eraill, wrth gael gafael ar gymorth a chefnogaeth."
Y gobaith yw y gall Diwrnod Lles ac Iechyd Meddwl ddod yn ddigwyddiad blynyddol sy'n datblygu yn ôl anghenion y gymuned.
Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i leihau tlodi yn Affrica is-Sahara.