Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn rhybuddio bod diogelwch bwyd y DU mewn perygl wrth i’r cyhoedd gael eu paratoi ar gyfer safonau is

25 Medi 2019

Image of fresh fruit and vegetables at a market

Yn ôl hysbysiad newydd gan y Food Research Collaboration sy’n cynnwys yr Athro Terry Marsden o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, ceir arwyddion bod y llywodraeth yn ceisio meddalu’r farn gyhoeddus ynghylch safonau bwyd is ar ôl Brexit, gan gynnwys cyw iâr mewnforiedig wedi’i glorineiddio a chig eidion wedi'i drin â hormonau.

Mae arbenigwyr wedi cyhoeddi rhybuddion newydd ar ôl datganiad gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Defra yr Athro Syr Ian Boyd, sy'n ymddeol, yn nodi nad oes problemau iechyd yn gysylltiedig â chyw iâr wedi’i glorineiddio ac mai ‘dewis y cwsmer’ ydyw.

Defnyddir clorin yn yr UDA i ddiheintio bwyd sy’n dod o brosesau cynhyrchu sydd â safonau hylendid llai llym na’r rhai sy’n ofynnol yn yr UE.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod y broses, yn hytrach nag osgoi heintiau, yn rhwystro’r dull profi safonol lle dylai presenoldeb bacteria o’r fath ddod i’r amlwg, ac mae'r bacteria’n gallu aros ar y bwyd ac achosi gwenwyn bwyd difrifol, a allai fod yn angheuol.

Mae tystiolaeth, sy’n cael ei chydnabod gan uwch swyddogion yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos bod cyfraddau gwenwyn bwyd bacteriol yn yr UDA lawer yn uwch na rhai y DU, sy’n dangos bod bwyd lawer yn llai glân a diogel yn yr UDA nag yn y DU.

Mae’r briff hefyd yn dadlau bod gorddefnydd gwrthfiotigau yn yr UDA yn cyfrannu at ddatblygiad rhywogaethau o facteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau, ac y dylid defnyddio llai ohonynt.

Mae arbenigwyr yn galw am ymrwymiadau cadarn i amddiffyn safonau bwyd gael eu cynnwys ym mhob cytundeb cyfreithiol mewn unrhyw drafodaethau sy’n ymwneud â masnach ar ôl Brexit. Maent hefyd yn annog sefydliadau amgylcheddol, iechyd cyhoeddus a defnyddwyr i ymdrechu ar y cyd i osgoi tanseilio'r safonau bwyd uchel yn y DU.

Rhannu’r stori hon