Canolfan ymchwil iechyd meddwl flaenllaw yn dathlu 'degawd o ddarganfyddiadau'
5 Tachwedd 2019
Mae un o ganolfannau blaenllaw'r byd sy'n cynnal ymchwil ynghylch y ffactorau sy'n sail i broblemau iechyd meddwl yn dathlu ei phen–blwydd yn 10 oed.
Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg yn pontio hefyd o fod yn un o ganolfannau'r Cyngor Ymchwil Feddygol i un o ganolfannau Prifysgol Caerdydd, ac mae'r Athro James Walters yn cymryd yr awenau fel cyfarwyddwr, gan gymryd lle’r Athro Syr Michael Owen.
Sefydlwyd y Ganolfan yn 2009 fel canolfan gyntaf y Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghymru a chanolfan rhagoriaeth ar gyfer y DU, ac mae wedi gwneud cryn gynnydd o ran deall rhai o'r pethau sy'n achosi anhwylderau seiciatrig, niowroddatblygiadol a niwroddirywiol.
Mae llawer o'r ymchwil wedi canolbwyntio ar ffactorau risg geneteg ar gyfer anhwylderau fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, clefyd Alzheimer ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).
At hynny, mae gwyddonwyr y Ganolfan wedi bod yn arloesol o ran astudiaethau ynghylch y modd y mae anhwylderau â goblygiadau pwysig ar gyfer y modd rydym yn gwneud diagnosis o anhwylderau meddyliol yn gorgyffyrdd, ac wedi nodi meysydd biolegol newydd fel targedau posibl ar gyfer triniaethau newydd.
Mae'r Ganolfan wedi cyhoeddi dros 1,900 o bapurau, ac mae ganddi dros 1,900 o gydweithriadau'n mynd rhagddynt gydag ymchwilwyr ar draws y byd.
Canfyddiadau arwyddocaol
2010 | canfod amrywiaethau geneteg prin sy'n cynyddu'r risg o ADHD |
2013 | arwain astudiaeth ryngwladol wnaeth ddod o hyd i 11 genyn newydd sy'n gwneud pobl yn fwy agored i gael clefyd Alzheimer |
2014 | wedi nodi 108 maes newydd ar y genom sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia |
2015 | wedi nodi addaswyr geneteg yng nghlefyd Huntington |
2016 | wedi canfod ffactorau sy'n cynyddu gwydnwch mewn pobl ifanc sydd â risg teuluol uchel o iselder |
2018 | wedi cyhoeddi'r astudiaeth genomeg fwyaf ynghylch sgitsoffrenia, gan nodi 50 o loci ychwanegol |
2019 | wedi canfod bod dileadau a dyblygiadau prin DNA yn gyfrifol am amrywiaeth eang o anawsterau datblygiadol mewn plant |
Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu llwyddiannau'r Ganolfan – ac edrych ymlaen at y cynlluniau ar gyfer y degawd nesaf – ar 22 Hydref.
Yn ôl Syr Mike: "Bu'n 10 mlynedd wych, ac mae wedi bod yn ardderchog gweld cymaint o ganfyddiadau mewn ystod eang o anhwylderau seicolegol gwahanol.
Yn ôl yr Athro Walters: "Mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol wedi bod ar flaen y gad o ran canfyddiadau arwyddocaol ym maes geneteg niwroseiciatrig dros y degawd diwethaf, gan gynnig gwybodaeth bwysig am gyflyrau iechyd meddwl a dementia.
"Pleser o'r mwyaf yw cymryd yr awenau fel cyfarwyddwr oddi wrth yr Athro Syr Michael Owen, a llywio'r broses o bontio i'r Ganolfan ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Bydd y Ganolfan yn parhau i fuddsoddi yn y staff a'r adnoddau gwych yng Nghaerdydd i arwain ymchwil geneteg ryngwladol a defnyddio'r wybodaeth sy’n deillio o’r ymchwil hon i wella bywydau'r rheiny â chyflyrau iechyd meddwl a niwrolegol."
Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Mae'r Ganolfan wedi arwain at rai o'r canfyddiadau mwyaf pwysig ym maes geneteg anhwylderau seiciatrig a niwroddirywiol yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae wedi newid wyneb ymchwil iechyd meddwl – ac, yn y pen draw, wedi newid y modd rydym yn ystyried nifer o gyflyrau iechyd meddwl.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn dros y 10 mlynedd ddiwethaf – a llongyfarch pob aelod o staff am gyrraedd y garreg filltir hon.
"Teimlaf yn sicr y bydd nifer mwy o ganfyddiadau sylweddol yn y cyfnod nesaf o waith y Ganolfan."
https://www.youtube.com/watch?v=QKqshjyU4Z8&feature=youtu.be