Mae Dr Hannah Pitt wedi cyflwyno dau seminar yn KU Leuven
2 Hydref 2019
Mae Dr Hannah Pitt, Cydymaith yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, wedi cyflwyno dau seminar yn KU Leuven.
Un o gyflwyniadau Hannah oedd ‘Pwy fydd yn gallu tyfu bwyd yn y DU?’ a oedd yn trafod ‘Deall Sut i Dyfu’; prosiect sy’n ymchwilio i’r elfennau gwybodaeth a sgiliau a allai lesteirio cynhyrchu garddwriaethol, a sut gall gefnogaeth y Llywodraeth helpu. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos gwahaniaethau mawr yng ngallu tyfwyr i ffynnu a buddsoddi yn eu sgiliau.
Er bod delwedd cyson negyddol yn ôl pob golwg yn cyfyngu nifer y bobl ifanc sy’n chwilio am yrfaoedd yn y sector, mae’r apêl o dyfu mewn mentrau ecolegol wedi’u gyrru gan werth, ar dwf. Roedd y seminar yn ymchwilio i’r materion hyn, yn rhannu’r dull sy’n cael ei ddefnyddio i ymchwilio iddynt, ac yn amlygu’r goblygiadau sy’n berthnasol i rannau eraill o’r system fwyd.
Bu Hannah hefyd yn cyflwyno ‘Ond ydyn ni’n gwneud gwahaniaeth?: Gwersi wrth werthuso camau gweithredu a arweinir gan gymdeithas sifil ar fwyd’. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar ei hymchwil i werthuso effaith a gweithgarwch nifer o raglenni mawr sy’n canolbwyntio ar fwyd, wedi’u harwain gan grwpiau cymdeithas sifil, gan gynnwys ‘Bwyd am Oes’ sy’n gweithio gydag ysgolion a sefydliadau cyhoeddus eraill i gyflwyno model cynaliadwy ar gyfer arlwyo a diwylliannau bwyd.
Ar hyn o bryd, mae Hannah yn arwain gwerthusiad o Food Power, rhaglen ledled y DU sy’n cefnogi cynghreiriau lleol sy’n cydweithio i fynd i’r afael ag achosion o dlodi bwyd. Mae’r math yma o ymchwil yn cynnig heriau a chyfleoedd ar gyfer ochrau academaidd ac anacademaidd y bartneriaeth. Roedd y seminar yn archwilio’r rhain, ynghyd â mewnwelediad i rai o’r dulliau sydd wedi bod yn llwyddiannus o ran cefnogi grwpiau sifil i ddangos a deall eu heffaith.
Gellir gweld sleidiau o seminar Hannah ar wefan Biosphere.