Unigrwydd ymysg morwyr wedi'i amlygu mewn adroddiad
6 Tachwedd 2019
Mae oriau gwaith hir, unigedd a chyfnodau estynedig oddi cartref yn cynyddu'r risg o iechyd meddwl gwael ymysg morwyr, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae'r astudiaeth, a ariennir gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH), yn annog cwmnïau llongau nwyddau i roi mwy o gefnogaeth i weithwyr, er mwyn helpu i atal cyflyrau fel gorbryder ac iselder. Mae hynny'n cynnwys cynnig cyfleusterau ar y llong fel mynediad i'r rhyngrwyd, llety gwell a gweithgareddau hamdden.
Llenwodd dros 1,500 o forwyr holiadur ynghylch eu profiadau ar gyfer yr ymchwil, tra cynhaliwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb â grŵp bach o forwyr, cyflogwyr, elusennau morol a rhanddeiliaid eraill. Roedd diffyg mynediad at y rhyngrwyd, cyfnodau hir i ffwrdd o ffrindiau a theulu a llety a bwyd o ansawdd gwael ymysg y prif bethau oedd yn peri pryder i'r rheiny sy'n gweithio ar y môr.
Yn ôl yr Athro Helen Sampson, wnaeth arwain yr astudiaeth, mae tystiolaeth bod anhwylderau seicolegol sydd wedi dechrau'n ddiweddar yn cynyddu ymhlith morwyr presennol, ond eto i gyd dywedodd dros hanner (55%) y cyflogwyr nad oeddent wedi cyflwyno unrhyw bolisïau neu arferion i fynd i'r afael ag iechyd meddwl ers degawd.
Wrth gael ei holi mewn cyfweliad am ddioddef o afiechyd meddwl, dywedodd un morwr: "Rhwng pwysau, baich gwaith, dim dyddiau i ffwrdd o'r gwaith a'r ffaith eich bod filltiroedd maith o'ch cartref ac yn gyfyngedig iawn o ran cyfathrebu, beth ydych chi'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd?" Yn ôl morwr arall: "Dyw tri mis ar y tir yn ddim byd. Dych chi ddim yn gallu gweld eich plant yn tyfu'n hŷn, dych chi ddim yn gallu gweld unrhyw beth. Rydych chi fel ewythr sy'n mynd a dod."
Yn ôl yr Athro Sampson, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae'n dra rhwydd i forwyr sy'n gweithio yng nghanol y cefnforoedd fod yn anweledig i'r rheiny ar y tir. Mae'r pellter maith ac arunig yn golygu na fydd cam–drin yn cael ei weld. Weithiau bydd morwyr yn cael eu bwlio, ac fe aflonyddir arnynt gan weithwyr ar lefel uwch, neu gydweithwyr, ar y llong. Fodd bynnag, mae llawer o gyflogwyr yn cam–drin morwyr hefyd drwy fethu cynnig amodau byw gweddus a dyngarol sy'n hyrwyddo lles meddyliol da."
Casgliad yr adroddiad yw y byddai cynnig mynediad yn rhad ac am ddim at y rhyngrwyd fyddai'r cyfraniad fwyaf sylweddol at wella iechyd meddwl a lles y rheiny sy'n gweithio ar longau. Ymhlith meysydd eraill i'w hystyried mae gwell telerau ac amodau gwaith, perthnasoedd gyda chydweithwyr ar y llong, llety a gweithgareddau hamdden.
Yn ôl Duncan Spencer, Pennaeth Cyngor ac Ymarfer yn IOSH: "Mae gweithwyr unigol, neu'r rheiny sy'n gweithio fel rhan o griw bychan mewn ardaloedd arunig yn aml yn gweithio heb ryngweithio'n agos â chydweithwyr eraill neu aelodau o'r teulu. Maen nhw'n wynebu cyfres o heriau unigryw ac yn arbennig o agored i niwed o ran eu hiechyd meddwl.
"Mae angen i sefydliadau sy'n cyflogi gweithwyr arunig newid eu hymagwedd er mwyn dilyn safonau tebyg sy'n cael eu rhoi ar waith mewn diwydiannau eraill. Mae arweinyddiaeth a diwylliant gwan o fewn y sefydliad, pwysau gormodol, bwlio ac aflonyddu yn ffactorau â'r potensial i gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles gweithwyr. Mae'n hanfodol ystyried y pethau hynny mewn difrif, a mabwysiadu ymagwedd gymesur tuag atynt."
Mae'r canlynol ymhlith argymhellion penodol gan yr ymchwilwyr:
- O leiaf un gweithgaredd ar y llong, fel pêl-fasged, sboncen neu nofio;
- O leiaf pedwar gweithgaredd o blith tennis bwrdd, dartiau, barbeciws, karaoke, bingo, gemau cardiau a gemau bwrdd;
- Campfa gydag o leiaf tri darn o gyfarpar;
- O leiaf dau gyfleuster o blith sawna, llyfrgell llyfrau a DVD, teledu lloeren gyda chabanau a llyfrgell o gemau fideo rhyngweithiol;
- Matresi cyffyrddus a dodrefn yn y cabanau;
- Gwyliau ar y tir ar bob cyfle, i weithwyr ar bob lefel;
- Bwyd amrywiol, o safon uchel.
At hynny, anogir sefydliadau i gynnig arweiniad hunangymorth ynghylch gwella gwydnwch meddyliol, cynnig contractau sy'n cydbwyso amser yn y gwaith ac ar wyliau, cefnogi a gorfodi polisïau gwrth–fwlio a gwrth–aflonyddu, hyfforddi swyddogion i greu naws gadarnhaol ar y llong a sefydlu gwasanaethau cwnsela cyfrinachol.
Gelir bwrw golwg ar yr adroddiad ymchwil yn www.iosh.com/seafarerswellbeing