Cynhadledd Canmlwyddiant Ysgol Fferylliaeth
4 Tachwedd 2019
Ar 19eg Medi, dechreuodd Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol ddathlu ei chanmlwyddiant trwy gynnal cynhadledd yn Adeilad Haydn Ellis. Diben yr achlysur oedd nodi canrif o ragoriaeth ysgolheigaidd ac ystyried heriau a chyfleoedd y dyfodol ym maes fferylliaeth.
Roedd nifer o siaradwyr gwadd enwog yno. Ar ôl i Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Mark Gumbleton, agor y gynhadledd, soniodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, am ddyfodol fferylliaeth yng Nghymru a gwaith ardderchog Prifysgol Caerdydd ynghylch hyfforddi fferyllwyr y dyfodol.
“Mae cydnabyddiaeth bod Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol yn un o brif ysgolion y deyrnas yn y maes hwn,” meddai gan ychwanegu, “Ymhlith y proffesiynolion sy’n gweithio yn ein cymunedau, mae fferyllwyr yn rhoi gwasanaeth gwerthfawr iawn trwy helpu i reoli clefydau parhaus, rhoi cynghorion a rhagnodau a chynnig Gwasanaeth yr Afiechydon Cyffredin.”
Ar ôl araith y gweinidog, ymhelaethodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans, ar y syniadau hynny gan ddisgrifio trywydd fferylliaeth tuag at 2030 pan fydd fferyllwyr yn helpu cleifion i ddeall eu clefydau a’u moddion yn well yn ogystal â chanolbwyntio ar hwyluso’r deilliannau gorau trwy ddulliau megis rhagnodi, gyrru arloesedd, rhoi moddion ar gael i bawb a chynnig gofal heb ffiniau.
Y siaradwr olaf oedd Prif Wyddonydd Cymdeithas Frenhinol Fferylliaeth, Gino Martini, a ddisgrifiodd sut y bydd triniaethau’n newid yn y degawdau sydd i ddod ac effaith hynny ar rôl fferyllydd. Cyflwynodd i’r Athro Gumbleton gerdyn pen-blwydd ar gyfer yr ysgol, hefyd.
Meddai’r Athro Gumbleton, “Heddiw, edrychon ni at y dyfodol a sut y gall ysgol fferyllol flaenllaw barhau i fireinio’r addysg a’r hyfforddiant y bydd eu hangen i hwyluso dyheadau unigolion, galwedigaeth fferylliaeth a gofal i gleifion. Yn yr ysgol hon, rydyn ni’n cydnabod y cyfrifoldeb enfawr hwnnw rydyn ni’n ei ysgwyddo ar y cyd â llawer o bobl eraill. Rwy’n parhau i gael fy ysbrydoli gan fferylliaeth fodern a’r modd y gall ddatblygu.”