Ewch i’r prif gynnwys

Mae myfyrwyr nyrsio yn trafod rhoi organau ym Mela

22 Hydref 2019

Mela event

Aeth grŵp o fyfyrwyr israddedig, gyda Ricky Hellyar - Darlithydd Nyrsio o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, i ddigwyddiad Mela ym Mae Caerdydd fis diwethaf.

Mae Mela yn dathlu amrywiaeth o ddiwylliannau yng Nghaerdydd a De Cymru, gyda'i brif wreiddiau yn ddiwylliant De Asia.

Nod y diwrnod ar gyfer tîm y Gwyddorau Gofal Iechyd oedd cydweithio ag amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd. Wrth weithio gyda Believe Organ Donation Support a Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, gwrandawodd y tîm ar farn y rhai oedd yn bresennol a siarad â nhw am roi organau.

Deellir  bod agweddau tuag at rhoi organau yn dod yn fwy cadarnhaol, ond mae’r prinder o roddwyr o gymunedau pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn fater o frys.

Mae ymchwil yn awgrymu bod rhai pryderon ynghylch rhoi organau yn gysylltiedig â chredoau crefyddol, ysbrydol a diwylliannol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i fyfyrwyr gydweithio ag unigolion o gymunedau BAME a chlywed eu barn am y pwnc wyneb yn wyneb.

Dywedodd Georgia, un o’r gwirfoddolwyr ym mlwyddyn tri:

“Yn Mela cawson ni’r cyfle i siarad gydag amrywiaeth o bobl o ddiwylliannau gwahanol Roedden ni’n gallu gwrando ar eu safbwyntiau nhw am roi organau a darganfod beth oedd rhoi organau yn ei olygu iddyn nhw.

Doedd rhai pobl ddim yn ymwybodol o’r newidiadau yng Nghymru ac roedden ni’n gallu cynnig gwybodaeth i unigolion a theuluoedd sy’n gallu eu helpu i wneud penderfyniadau”.  

Roedd y diwrnod yn ddefnyddiol dros ben ac yn dangos ymrwymiad rhagorol y myfyrwyr i ddeall safbwyntiau amrywiol ynghylch gofal iechyd.

Rhannu’r stori hon