Treial gwerth £2m yn ceisio llywio gwell defnydd o wrthfiotigau mewn sepsis
1 Tachwedd 2019
Mae Canolfan Treialon Ymchwil Caerdydd yn mynd i gydlynu treial sy'n edrych ar y defnydd o wrthfiotigau mewn sepsis.
Mae sepsis yn gymhlethdod haint sy'n gallu bygwth bywyd ac amcangyfrifir bod 52,000 o bobl yn y DU yn marw o ganlyniad iddo bob blwyddyn.
Mae'r driniaeth orau'n cynnwys ei adnabod yn gynnar, rhoi gwrthfiotigau mewn da bryd a hylifau.
Bydd y treial yn edrych ar asesu sepsis mewn argyfwng ac a oes gormod o wrthfiotigau'n cael eu rhagnodi, rhywbeth y mae arbenigwyr yn dweud ei fod yn ffactor arwyddocaol sy'n arwain at fwy o ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Meddai Emma Thomas-Jones, uwch-gymrawd ymchwil yn y Ganolfan: “Nod y treial yw asesu a yw ychwanegu prawf gwaed yn y man gofal yn gallu cynorthwyo clinigwyr i wneud penderfyniad ynghylch a oes rhaid rhoi triniaeth wrthfiotig frys mewn cleifion sy'n dod i'r adran argyfwng gydag amheuaeth o sepsis. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at ostyngiad yn y defnydd o wrthfiotigau heb gynyddu'r risg o farwolaeth.”
Meddai'r Athro Enitan Carrol, aelod o grŵp datblygu canllawiau sepsis y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a chyd-ymgeisydd ar y treial: “Mae'r canllawiau sepsis yn argymell rhoi gwrthfiotigau brys i achosion a amheuir ac ers iddynt gael eu cyflwyno, maen nhw wedi arwain at gynnydd o 50% mewn defnydd o wrthfiotigau mewnwythiennol sbectrwm eang mewn adrannau argyfwng oedolion.
“Mae hyn yn cyfrannu i ragor o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae angen dosbarthu pellach er mwyn penderfynu pa gleifion sydd â gwir angen gwrthfiotigau mewnwythiennol cyn pen awr, a pha rai sy'n gallu aros tra bydd rhagor o asesiadau’n cael eu gwneud. Gallai ein treial helpu i ateb y cwestiwn hwn.”
Meddai'r Athro Neil French, o Sefydliad Heintiau ac Iechyd Byd-Eang Prifysgol Lerpwl, sy'n arwain y treial: “Mae'n rhaid i ni ddefnyddio gwrthfiotigau'n llawer mwy clyfar ac mae angen y dystiolaeth orau posibl arnom i wneud hyn.”
Bydd y treial yn archwilio a fyddai Procalcitonin (PCT), prawf gwaed nad yw'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol yn y GIG, yn gallu gwella’r asesiad o sepsis, o'i gyfuno â'r Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (National Early Warning Score (NEWS)), sy'n cael ei ddefnyddio yn 90% o ysbytai Lloegr.
Fel rhan o’r treial, bydd y safon gofal cyfredol a'r gofal gyda chymorth PCT yn cael ei bennu ar hap i oedolion yr amheuir bod sepsis arnyn nhw mewn 10 o ysbytai'r GIG.
Bydd yr astudiaeth Gwerthusiad o Procalcitonin a NEWS i adnabod sepsis mewn pryd a'r defnydd gorau o wrthfiotigau (PRONTO), sy'n dechrau ym mis Rhagfyr 2019, yn para tair blynedd.
Y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol sy'n ariannu'r prosiect.