Cyrsiau rhan-amser a ysbrydolir gan Gymru
30 Hydref 2019
Dysgwch am hanes, tirweddau a gwleidyddiaeth Cymru. Cynhelir y cyrsiau unwaith yr wythnos (dros gyfnod o 10 wythnos) yng nghanol Caerdydd, ac mae'r teitlau'n cynnwys:
- Archwilio Tirweddau Cymru (dechrau ar 22/01/20)
- Cyflwyniad i Hanes Trefol De Cymru (dechrau ar 21/01/20)
- Y System Wleidyddol yng Nghymru (dechrau ar 30/01/20)
- Hanes Caerdydd: O Gaer Rufeinig i Brifddinas (28/04/20)
Mae cyrsiau ychwanegol ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i website neu ffoniwch ni ar 029 2087 0000 i gael copi o’n prosbectws. Rydym yn annog myfyrwyr i gofrestru cyn dyddiad dechrau’r cwrs i gadw eu lle. Mae maes parcio am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ein cyrsiau gyda’r hwyr.
- Darlithoedd cyfareddol am ddim ar Hanes Cymru: Gwna gynnig iddo na all ei wrthod:" Llygredigaeth, Gorfodaeth a'r Bonedd yng Nghaerdydd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.- Elizabeth Jones (Prifysgol Caerdydd) fydd yn cyflwyno’r ddarlith ar 11/12/19 am 7.15pm
- O Ferthyr 1831 i Gasnewydd 1839: Datblygiad Gwrthryfeloedd Poblogaidd - Les James (Y Gymdeithas Hanesyddol) fydd yn cyflwyno’r ddarlith ar 08/03/2020 am 7.15pm
Cynhelir yr holl ddarlithoedd yn Addysg Barhaus a Phroffesiynol, 21-23 Heol Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AG. Nid oes rhaid cadw lle, dim ond ymddangos ar y noson.