Ewch i’r prif gynnwys

Kubos a Chanolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd yn datblygu technolegau LED

31 Hydref 2019

LED light painting

Mae partneriaeth rhwng Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) Caerdydd a chwmni wedi'i leoli yng Nghaergrawnt, Kubos Semiconductors wedi'i ffurfio i wella effeithiolrwydd LEDs (deuodau sy'n allyrru golau) gwyrdd.

Nod y bartneriaeth yw datblygu nifer o gymwysiadau Deuod sy'n Allyrru Golau (LED) – yn cynnwys bylbiau golau all ddynwared newidiadau naturiol mewn golau dydd, a byrddau arddangos LEDs meicro ar gyfer technolegau y gellir eu gwisgo, fel sgriniau teledu, sgriniau rhithwir i'w gwisgo ar y pen, ac oriorau clyfar.

Mae'r sefydliadau wedi llofnodi cytundeb i fasnacheiddio'r broses o weithgynhyrchu LEDs gan ddefnyddio Galiwm Nitrad (GaN) ciwbig – yn hytrach na Galiwm Nitrad (GaN) hecsagonal traddodiadol.

Bydd deiliad trwydded y dechnoleg yn gallu creu LEDs rhatach, mwy effeithiol gyda gwell nodweddion electronig i'w defnyddio mewn ystod eang o ddyfeisiau electronig.

Mae Kubos ar ei ennill o ganlyniad i’r bartneriaeth am ei bod yn galluogi'r cwmni i gyflymu'r broses o ddatblygu technolegau â phatent ar adweithwyr yng nghyfleuster CSC yn Llaneirwg, tra mae CSC ar ei hennill o ganlyniad i dwf gweithgynhyrchu dyfeisiau'r dyfodol wrth i'r prosiect brofi cynnydd.

Fe gafodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ei sefydlu ym mis Awst 2015 fel menter ar y cyd rhwng IQE plc, prif ddarparwr wafferi lled-ddargludyddol cyfansawdd y byd, a Phrifysgol Caerdydd.

Mae gan dechnoleg twf Galiwm Nitrad, y mae gan Kubos hawliau perchnogol ar ei chyfer, y potensial i osgoi cyfyngiadau mewn dyfeisiau LED confensiynol sy’n seiliedig ar GaN, er mwyn cynhyrchu LEDs gwyrdd ac ambr mwy effeithlon.

Yn ôl Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr CSC: "Mae'r dechnoleg yn hynod gyffrous ar gyfer gweithgynhyrchwyr technolegau LED. Rydym yn gobeithio y bydd cydweithio â Kubos yn galluogi'r genhedlaeth nesaf o fyrddau arddangos LED, a chymwysiadau eraill ar gyfer LED. Mae CSC yn helpu i ddod â thechnolegau deunyddiau lled-ddargludyddion newydd i’r farchnad yn gynt drwy gefnogi ecosystem lle mae ymchwilwyr academaidd yn gweithio mewn amgylchedd sy'n berthnasol yn ddiwydiannol. Drwy weithio gyda ni, gall Kubos ddylanwadu ar y buddsoddiad cyfalaf sylweddol sydd ei angen er mwyn masnacheiddio'r technolegau deunyddiau newydd. Mae'r gost a'r risg sydd ynghlwm wrth fasnacheiddio wedi'u gostwng – gyda'r fantais ychwanegol o weithio gydag ystod eang o allu a phartneriaid perthnasol yn y clwstwr CSconnected yn Ne Cymru'.

Mae CSC, Kubos, IQE a Phrifysgol Caergrawnt yn rhan o'r fenter gydweithredol.

Yn ôl Caroline O’Brien, Prif Swyddog Gweithredol Kubos, "Mae CSC yn bartner delfrydol ar gyfer Kubos gan ei bod yn cefnogi ein model busnes di–ffabrigiad (fabless) ac yn cynorthwyo â rheoli costau Ymchwil a Datblygu mewn modd cadarn. Wrth i'n technoleg aeddfedu, bydd hynny'n golygu hefyd ein bod wedi meithrin perthynas â phartner sy'n gallu cefnogi symud at brosesau sy'n uchel o ran cynnyrch a niferoedd, sy'n ofynnol ar gyfer technoleg LED sy'n fasnachol ddichonadwy."

Yn ôl yr Athro David Wallis, Cyfarwyddwr Technolegol Kubos: "Mae gan dechnoleg GaN ciwbig Kubos y potensial i oresgyn rhai o gyfyngiadau technolegau LED presennol. Mae gweithio gyda CSC yn galluogi Kubos i gyflymu'r broses o elwa'n fasnachol ar y deunydd cyffrous hwn."