Ewch i’r prif gynnwys

Athrawon mewn Cyfraith Eglwysig yn mynd i gyfarfod preifat â’r Pab

30 Hydref 2019

Y mis Medi hwn, aeth dau aelod o Ganolfan y Gyfraith a Chrefydd, sy’n rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, i gyfarfod preifat â’r Pab Francis yn Rhufain.

Cymerodd yr Athro Norman Doe a’r Athro Anrhydeddus Mark Hill QC ran yng nghyngres hanner canmlwyddiant y Gymdeithas ar gyfer Cyfraith Eglwysi’r Dwyrain, a gynhaliwyd yn Rhufain 16-20 Medi, gydag arbenigwyr o’r Eglwysi Catholig Dwyreiniol, Uniongred a Dwyreiniol yn bresennol.  Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo cydweithio rhyngwladol a rhyngeglwysig ymhlith arbenigwyr ar gyfraith Eglwysi’r Dwyrain a’r gyfraith sifil.

Ar 19 Medi, yn y Palas Apostolaidd, croesawyd y cyfranogwyr i gyfarfod preifat â’r Pab Francis a siaradodd yn ei anerchiad am sut gall eglwysi ddysgu gan ei gilydd am bob agwedd ar fywyd eglwysig, fel diwinyddiaeth, ysbrydolrwydd, bugeiliaeth a chyfraith eglwysig - dywedodd, “Mae cyfraith eglwysig yn hanfodol ar gyfer dialog eciwmenaidd.”

Fe gynrychiolodd yr Athrawon Doe a Hill banel eciwmenaidd sy’n cynnwys deg traddodiad Cristnogol ar draws y byd, a gynullwyd gan yr Athro Hill am y tro cyntaf yn 2013.  Yn 2016, cyhoeddodd y panel Datganiad o Egwyddorion Cyfraith Gristnogol (Rhufain 2016) a gafodd ei awgrymu a'i ddrafftio i ddechrau gan yr Athro Doe ar sail ei lyfr Christian Law: Contemporary Principles (Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2013).

Mae’r Datganiad bellach yn cael ei fwydo i mewn i waith y Comisiwn Ffydd a Threfn dros Gyngor Eglwysi’r Byd. Cyflwynodd yr Athrawon Doe a Hill y Datganiad i’r Pab Francis mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2019 ac mae’r cyhoeddiad diwethaf gan y Pab yn tanlinellu arwyddocâd ehangach menter y panel.

Rhannu’r stori hon