Ewch i’r prif gynnwys

Dydd Sadwrn Gwyddoniaeth Wych

29 Hydref 2019

I ddathlu Wythnos Gwyddorau’r Ddaear a Bioleg 2019, fe wnaeth gwyddonwyr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gydweithio â gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd i gyflwyno diwrnod bendigedig a llawn pethau diddorol i’w darganfod a’u gwneud ar gyfer y cyhoedd.

Ddydd Sadwrn 12 Hydref 2019, fe osododd cyfadran Gweithiwr Proffesiynol Gofal Llawdriniaethol (OPD) a’i myfyrwyr Theatr Llawdriniaethau yn Ystafell Darganfod Clore yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Yn ogystal â gallu gweld sut mae theatrau’n edrych toc cyn i glaf gael llawdriniaeth, cafodd ymwelwyr y cyfle i roi cynnig ar sgiliau y mae Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethau, llawfeddygon ac anaesthetegyddion yn eu defnyddio bob dydd yn y theatr llawdriniaethau a’r ysbyty.

Wynebodd ymwelwyr yr her o roi tiwb i mewn i glaf ar eu hunain drwy ddefnyddio system fideo-laryngosgop. Yna cafodd siocled ei gynnig iddyn nhw, ond gydag un fagl, sef eu bod nhw’n gorfod agor y papur losin drwy ddefnyddio peiriant ymarfer llawdriniaeth laparosgopig (twll clo).

Hefyd, cafodd y cyhoedd y cyfle i weld eu corff eu hunain ar waith wrth i’r tîm ddefnyddio peiriant uwchsain i fwrw golwg dros y pibellau gwaed yn eu breichiau i’w helpu i ddysgu’r gwahaniaeth rhwng rhydwelïau a gwythiennau.

Meddai Craig Griffiths, Darlithydd Ymarfer Gofal Llawdriniaethol ‘Mae’n gyfle gwych i gynnig cipolwg ar fywyd Ymarferydd Gofal Llawdriniaethol ac arddangos rhai o’n cyfleusterau unigryw. Hefyd, mae’n ffordd dda i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd yn rhan o’u hastudiaethau.’

Dywedodd Emma Roberts, myfyriwr yn Ymarfer Gofal Llawdriniaethol, "Fel myfyriwr, mae'n wych cael y cyfle i addysgu aelodau o'r cyhoedd, a phlant ifanc yn enwedig, am beth rydym yn ei wneud. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd Ymarfer Gofal Llawdriniaethol pan yn tyfu fyny ond gobeithio bydd rhai o'r plant hynny yn dysgu, sy'n wych i'n proffesiwn!"

Rhannu’r stori hon