Digwyddiad newydd i gymuned ymchwil ôl-raddedig Cymru
29 Hydref 2019
Ymunodd ymgeiswyr doethurol o bob rhan o Gymru â'u cymheiriaid academaidd ac ymarferwyr yng Nghynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig gyntaf Cymru mewn Busnes, Rheoli ac Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Mercher 19 Mehefin 2019.
Daeth y gynhadledd undydd, a gyd-gyllidwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a Phartneriaeth Hyfforddi Doethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) â myfyrwyr PhD at ei gilydd o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor i edrych ar y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil Busnes, Rheoli ac Economeg.
Bu 58 o fyfyrwyr PhD o bob cyfnod astudio yn arddangos ymchwil mewn amrywiol sesiynau gan gynnwys 43 o gyflwyniadau papur a 15 arddangosiad poster ar ddisgyblaethau Economeg, Cyfrifeg a Chyllid, Marchnata, Logisteg a Gweithrediadau, Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau.
Datblygu'r Garfan
Roedd y sesiynau, a grwpiwyd yn ôl thema yn hytrach na disgyblaeth, yn hybu cyfnewid rhyngddisgyblaethol ac yn galluogi adeiladu cymuned ymchwil ar draws y tri sefydliad Cymreig. Roedd y digwyddiad yn gyfle i'r 120 o staff a myfyrwyr oedd yn bresennol geisio adborth a rhannu syniadau gydag academyddion, ymarferwyr busnes a'u cymheiriaid ôl-raddedig mewn awyrgylch cydweithredol a chyfeillgar.
Dywedodd David James, Cyfarwyddwr sefydlu Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru (DTP): “Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft ragorol o'r ffordd mae modd defnyddio cyllid penodol DTP ar gyfer datblygu'r garfan...”
“Rwyf i'n ddiolchgar iawn i'r staff allweddol am wneud i hyn ddigwydd, ac yn enwedig i Nicole Koenig-Lewis sy'n arwain y Llwybr Busnes a Rheoli.”
Partneriaethau Prifysgol-diwydiant
Daeth yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd, â'r trafodion ffurfiol i ben wrth gadeirio sesiwn lawn y gynhadledd.
Roedd y sesiwn, â'r teitl: Beyond the Ivory Tower, yn cysylltu academyddion o Gaerdydd, Abertawe a Bangor ynghyd ag ymarferwyr o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Centrica i drafod effaith ymchwil a phartneriaethau prifysgol-diwydiant.
Roedd y sgwrs bwrdd crwn yn gyfle i'r Athro David James, yr Athro David Blackaby a'r Athro Louise Hassan edrych ar y prosiectau cydweithredol llwyddiannus a hwyluswyd gan yr ESRC a chynnig cyngor i'r gymuned ymchwil ôl-raddedig ar sut i adeiladu llwybrau at effaith ar draws disgyblaethau Busnes, Rheoli ac Economeg.
Rhannodd Peter Fullerton, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio ac Adnoddau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Belinda Finch, Prif Swyddog Gwybodaeth Centrica, yr hyn maen nhw'n edrych amdano wrth gydweithio gyda phartneriaid academaidd. Ymhlith pethau eraill, roedden nhw'n myfyrio ar oblygiadau amgylcheddau data-gyfoethog a'r syniad o economi gysylltiedig fel nodweddion penodol mewn prosiect cydweithredol prifysgol-diwydiant.
Daeth y gynhadledd i ben gyda chinio yn Jury's Inn, Caerdydd, gyda cherddoriaeth fyw a seremoni wobrwyo.
Aeth y gwobrau am y cyflwyniadau papur gorau i:
- James Davies, o Ysgol Busnes Caerdydd a gyflwynodd bapur ar Labour Entry and Skill Formation in UK Television;
- Georgina Smith, o Ysgol Busnes Bangor, a gyflwynodd bapur â'r teitl Exploring the action-inaction asymmetry in the theory of planned behaviour framework.
- Samuel Mann, o Ysgol Rheoli Abertawe, a gyflwynodd bapur ar Sexual orientation and earnings; the role of industrial sorting and occupational attainment.
Aeth y wobr am y cyflwyniad poster gorau i Muhao Du, o Ysgol Busnes Caerdydd a gyflwynodd Study of the Management of Expatriates in Chinese Multi-national Corporations Operating Overseas.
Vibrancy, diversity and professionalism
Dywedodd yr Athro Luigi De Luca, Deon Cyswllt ar gyfer Astudiaethau Doethurol yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd y gynhadledd yn achlysur gwych ac yn gyfle perffaith i fyfyrwyr ar draws DTP ESRC Cymru gael profiad gwerthfawr yn cyflwyno ymchwil, cadeirio sesiynau ac wrth gwrs gysylltu gyda chymheiriaid, ymarferwyr allanol a staff academaidd...”
“Ar ran pawb yn Ysgol Busnes Caerdydd, hoffwn ddiolch i'r cyfranogwyr am gyfrannu i'r gynhadledd. Gobeithio mai hon oedd y gyntaf o lawer!”
Trefnwyd y digwyddiad gan Dîm Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd: Yr Athro Luigi De Luca, Dr Nicole Koenig-Lewis, Dr Kate Daunt, Lydia Taylor, Sol Alim a Beverly Francis. Fe'i cynhaliwyd yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion yr Ysgol.