Mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol
3 Rhagfyr 2015
Canllaw newydd i bobl ifanc ar ffyrdd diogel a chreadigol o hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau i sicrhau perthynas barchus
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi lansio prosiect newydd i ddatblygu canllaw arfer da gyda phobl ifanc, ynglŷn â sut gallant hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau i sicrhau perthynas barchus, a hynny mewn ffordd greadigol a diogel, yn eu hysgolion a'u cymunedau. Mae'n rhan o ddull addysg gyfan i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Lansiwyd Prosiect StARTer gan yr Athro Emma Renold, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher, 3 Rhagfyr), gan roi sylw i ddiogelu mewn addysgu gan ganolbwyntio ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Roedd ei phrif araith, sef astudiaeth o aflonyddu rhywiol mewn perthnasoedd rhwng pobl yn eu harddegau, yn seiliedig ar ei hadroddiad 'Girls and Boys Speak Out', sef un o'r catalyddion ar gyfer diwygiadau addysgol sylweddol wrth basio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ddiweddar.
Dilynir cyflwyniad yr Athro Renold gan ddrama dan arweiniad disgyblion, "Just Good Friends?". Mae'r sgript yn seiliedig ar ganfyddiadau'r prosiect, ac mae pob llinell a gaiff ei hadrodd yn ddyfyniad uniongyrchol o'r gwaith ymchwil.
Gweithiodd hefyd gydag athro drama a chynghorydd diogelu i gynnal gweithdai cynhadledd ar gyfer ymarferwyr, sy'n dangos sut gall ysgolion weithio gyda myfyrwyr a defnyddio'r celfyddydau i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ac ar sail rhyw mewn ysgolion yn ddiogel.
I ddangos pŵer y celfyddydau wrth gyfleu materion sensitif, cyflwynodd yr Athro Renold ei phrif araith a'i gweithdai gan wisgo rhai o'r arteffactau a gynhyrchwyd ym mhrosiect ymgysylltu ESRC/AHRC Productive Margins, 'Relationship Matters', gan gynnwys sgert pren mesur a chrys-t gyda cherdd gan fyfyriwr arno, "Words won't pin me down".
Mae'r prosiect hwn yn ymddangos fel enghraifft o brosiect da yn Good Practice Guide: A whole education approach to violence against women, domestic abuse and sexual violence.
Arweinir Prosiect StARTer (Safe to Act, Right to Engage and Raise) gan yr Athro Renold mewn cydweithrediad â Chymorth i Ferched Cymru ac NSPCC.
Cefnogir y prosiect hefyd gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bydd y canllawiau sy'n deillio o'r prosiect yn cael eu lansio ar 23 Mehefin 2016 yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Renold: "Mae pobl ifanc yn gynyddol ddig ynglŷn â gorfod goddef y pwysau i gydymffurfio â stereoteipiau rhyw, a goddef rhywiaeth ac aflonyddu rhywiol bob dydd. Fodd bynnag, maent yn ei chael yn anodd gwybod beth allant ei wneud i helpu i newid pethau.
"Bydd y Canllaw Arfer Da i Bobl Ifanc o fudd yn hyn o beth.
"Mae gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o gynhyrchu a, lle bo'n briodol, cyflwyno ymyriadau addysgol ataliol yn rhan bwysig o ddatblygu rhai llwyddiannus. Mae'n rhaid i unrhyw adnoddau, strategaethau ac arferion gysylltu â'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ym mywydau'r bobl ifanc.
"Mae Prosiect StARTer yn fenter gyffrous ac arloesol i Gymru. Er mai megis dechrau y mae'r prosiect, rydym yn casglu ac yn creu amrywiaeth o astudiaethau achos eglurhaol. Gobeithio bydd y rhain yn ysbrydoli pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu ar faterion allweddol sy'n ymwneud â chydraddoldeb y rhywiau a pherthynas barchus yn eu hysgolion a'u cymunedau, o arwahanu ar sail rhyw i aflonyddu yn y stryd."