O MOOC i MA
11 Tachwedd 2019
Mae myfyriwr o Hwngari sydd wrth ei fodd gydag ieithoedd wedi cofrestru yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ddiweddar ar ôl cwblhau cwrs ar-lein mewn Cyfieithu yn llwyddiannus.
Roedd gan Adam Kosa, o Mátészalka yn Hwngari, ddiddordeb mewn cyfieithu ond dim hyfforddiant proffesiynol, pan welodd y MOOC (cwrs ar-lein agored enfawr) Working with Translation sy'n cael ei gynnig gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ar y cyd â FutureLearn.
Ers cael ei lansio yn 2016, mae'r MOOC wedi rhedeg pum cwrs llwyddiannus i dros 38,000 o bobl. Mae dysgwyr o bedwar ban byd wedi cofrestru ar y cwrs ar-lein, gyda phobl o’r DU, Brasil, Rwsia, yr Aifft ac UDA yn creu’r garfan fwyaf. Mae dysgwyr o bob oedran wedi cofrestru ond mae’r cwrs yn arbennig o boblogaidd ymysg pobl rhwng 26 a 35 mlwydd oed.
Cyn cofrestru ar y cwrs ar-lein, roedd Adam wedi ymuno â TED Translate, cymuned fyd-eang o wirfoddolwyr sy'n isdeitlo sgyrsiau TED, er mwyn gwella ei sgiliau Saesneg, ond roedd yn dymuno deall beth yw cyfieithu a sut mae pobl broffesiynol yn gweithio.
Wrth siarad am ei brofiad, dywedodd Adam, "Ar y pryd, roeddwn i'n gweithio llawn amser a fy unig ddewis oedd gwneud cwrs ar-lein. Pan welais i fod Prifysgol Caerdydd yn cynnig cwrs o'r enw Working with Translation, ymunais i ar unwaith. Dyna'n union beth oedd ei angen arnaf i."
"Roedd y cwrs wedi'i strwythuro'n dda, yn ddifyr ac yn bodloni fy nisgwyliadau'n llawn. Roeddwn i'n mwynhau'r elfennau ymarferol yn enwedig. Unwaith, gofynnwyd i ni wneud cyfieithiad ffonetig o linellau cyntaf Epig Gilgamesh; yna cafwyd dau gyfieithiad rhyngieithol, fel rydyn ni'n eu galw, o gerdd Saesneg o'r ail ganrif ar bymtheg, a dirwy parcio!"
"Roedd yn ddefnyddiol cael ymarfer cyfieithu ymhlith gweithwyr proffesiynol eraill a chael adborth gwerthfawr. Roedd yr addysgwyr yn ymatebol iawn drwy gydol y cwrs gan ddarparu llyfryddiaeth ar ddiwedd pob wythnos i ni gael ehangu ein gwybodaeth y tu hwnt i'r cwrs."
Dair blynedd ar ôl cwblhau'r cwrs Working with Translation, yn ddiweddar cofrestrodd Adam ar MA yr Ysgol Ieithoedd Modern mewn Cyfieithu. Dywedodd Adam, "Mae'r MA yn cyfuno theori ac ymarfer ac mae'r modiwlau'n cynnwys pob agwedd ar y maes. Rydym ni'n cael gwybodaeth gyffredinol am Gyfieithu ond hefyd gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol ddwfn am y maes sy'n golygu y gallaf fynd i unrhyw gyfeiriad ar ôl gorffen."
"Byddwn i'n argymell yr Ysgol Ieithoedd Modern yn uchel. Dyw hi byth yn rhy gynnar i neidio i mewn i rywbeth rydych chi'n angerddol drosto. Mae popeth rwyf i wedi'i ddysgu hyd yma, ar yr MOOC a'r cwrs MA, wedi fy helpu yn fy ngwaith cyfieithu gwirfoddol. Rwyf i nawr yn defnyddio'r syniadau a'r dulliau rwyf i wedi'u dysgu mewn arferion cyfieithu yn y byd real."
Gallwch gofrestru ar y cwrs Working with Translation nesaf nawr a bydd yn dechrau ar 24 Chwefror 2020. Mae'r cwrs hwn yn un o nifer mae Prifysgol Caerdydd yn eu cynnig mewn partneriaeth â FutureLearn bob blwyddyn.