Myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau yn Tanzania
31 Hydref 2019
Gwirfoddolodd pedwar o fyfyrwyr Cemeg eu hamser yn Arusha’r haf hwn i ddysgu Saesneg a Mathemateg mewn ysgolion yn Tanzania.
Treuliodd James Jones, Sian Phillips, Samantha Fagan a Hannah O’donnell dair wythnos yn byw ac y gweithio yng nghymunedau Arusha fel rhan o raglen addysgu Agape Volunteers, sef prosiect elusennol sy’n cefnogi gwaith dyngarol i wella bywydau ledled Affrica.
Cafodd y myfyrwyr a oedd yn gwirfoddoli brofiad ymarferol o addysgu Saesneg a Mathemateg mewn ystafell ddosbarth, yn ogystal â chefnogi addysg plant dan anfantais mewn ysgolion heb staff nac arian digonol.
Meddai Samantha am ei hamser yn Tanzania: “Roedd fy nhaith yn llawn hwyl ac yn agoriad llygad i mi. Cefais gipolwg ar rai o’r prif wahaniaethau rhwng ein diwylliannau yn sgil cael fy nhrochi yn eu ffordd o fyw, o’r cytiau a’r cawodydd oer i’r drafnidiaeth gyhoeddus (weithiau’n cael ei rannu gydag ieir neu eifr).”
Cafodd y myfyrwyr y cyfle i archwilio dinas saffari Tanzania a dringo copa llawn eira Mynydd Kilimanjaro pan nad oeddent yn gwirfoddoli mewn ysgolion lleol.
Treuliodd y myfyrwyr amser gyda llwythau lleol ac ymuno â saffari lle roeddent yn ddigon ffodus i weld pob un o’r Pump Mawr, gan gynnwys llew, llewpard, rhinoseros, eliffant, a byfflo Cape.
Estynnodd James ei daith i gwblhau antur fythgofiadwy: “Arhosais am wythnos ychwanegol [yn Tanzania] i wireddu fy mreuddwyd ers yn blentyn ifanc o ddringo Kilimanjaro. Dringais lwybr Lemosho gyda dau ddringwr profiadol arall. Gwelsom rai o’r golygfeydd harddaf ar hyd y ffordd.”
Mae cyfleoedd gwirfoddoli o’r fath yn rhoi cipolwg gwych i fyfyrwyr ar y llwybrau gyrfaoedd amrywiol sydd ar gael i raddedigion mewn Cemeg. At hynny, maen nhw’n ehangu eu profiadau ac yn datblygu sgiliau newydd a allai fod yn werthfawr i gyflogwyr. Yn bennaf oll, diben gwirfoddoli dramor yw newid bywydau er gwell.
Roedd y profiad yn agoriad llygad i Samantha: “Gwnaeth i mi sylweddoli’r pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol. [Roedd yn] brofiad gwych na fyddaf i fyth yn ei anghofio.”
Gwnaeth James ffrindiau newydd ac ymdrochi yn y diwylliant: “Gwnes i gyfarfod â rhai o’r bobl fwyaf hoffus erioed. Roedd pawb yn awyddus i ddangos rhywfaint o’u diwylliant i mi – o flasu bwyd i ddawnsio a gweld y golygfeydd.”
Mae amser James yn Tanzania wedi bod o gymorth i lywio ei ddyfodol: “Mae’n deg dweud fy mod i wedi gwirioni gyda Tanzania a’i phobl. Mae’r profiad wedi bod yn hynod werth chweil, a byddaf yn edrych i wneud mwy o wirfoddoli yn ystod y gwyliau.”
Gwnaethpwyd y daith yn bosibl gan Ysgoloriaeth Cyfle Byd-eang Ron Anderson, a sefydlwyd gan ddefnyddio rhodd hael gan gyn-fyfyriwr Caerdydd Mr Ron Anderson (BSc, 1969). Cyfrannwyd cyllid hefyd gan gynllun Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol Cemeg.