Cwymp Wal Berlin - 30 Mlynedd yn Ddiweddarach
24 Hydref 2019
Diwrnod arbennig i goffáu 30 o flynyddoedd ers cwymp Wal Berlin a diwedd y Llen Haearn
Mae academyddion o bob rhan o Gymru’n dod ynghyd ym Mhrifysgol Caerdydd i archwilio’u hymchwil a phrofiadau bywyd ar drothwy 30 o flynyddoedd ers cwymp Wal Berlin.
Yn Cwymp Wal Berlin - 30 Mlynedd yn Ddiweddarach bydd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol yn cysylltu eu hymchwil eu hunain a’u profiadau o fyw yn (dwyrain) yr Almaen, yn Rwsia ac yn Tsiecoslofacia diolch i gyllid gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Cymru.
Nod y diwrnod yw taflu goleuni ar y ffordd y mae hanes yn dylanwadau ar fywgraffiadau a hunaniaethau’r rhai sy’n byw drwy ddigwyddiadau gwleidyddol mawr fel cwymp Wal Berlin a diddymiad y bloc dwyreiniol, ac sut y mae’n cydblethu â’u hanes a’u hunaniaethau.
Bydd Yr Athro Mary Heimann, Dr Marion Löffler, Dr James Ryan, a Dr Gerwin Strobl o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yr Athro Sergey Radchenko o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Dr Arddun Arwyn Prifysgol Aberystwyth a'r gwneuthurwr ffilmiau o Gymru Colin Thomas yn trafod eu hymchwil a'u ffilmiau.
Mae’r Cynullydd Dr Marion Löffler, a oedd yn llygad-dyst i’r digwyddiadau hanesyddol pan oedd ymgyrchydd o fyfyrwraig yn esbonio mwy:
"Wedi tyfu i fyny yn Nwyrain yr Almaen a chymryd rhan yn y digwyddiadau a arweiniodd at gwymp Wal Berlin, roeddwn i’n meddwl y dylai ein cynhadledd ganolbwyntio ar ddwyrain Ewrop a'r Almaen yn Hydref 1989, ond byddwn hefyd yn ymestyn yn ôl i brofi bywyd yn Nwyrain yr Almaen, ac ymlaen i fywyd ym Mhrâg yn y 1990au. Bydd ein hystod o arbenigwyr hefyd yn archwilio hunaniaethau Almaenaidd a Rwsiaidd sy’n newid ers y mileniwm.”
Cynhelir Cwymp Wal Berlin – 30 Mlynedd yn Ddiweddarach ddydd Gwener 8 Tachwedd yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad hanesyddol y Brifysgol. Mae’r digwyddiad am ddim hwn ar agor i bawb drwy gadw lle ymlaen llaw trwy Eventbrite. Dilynwch #BerlinWallFalls2019 i gael y newyddion diweddaraf.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol y celfyddydau a’r gwyddorau Mae'r Gymrodoriaeth yn dod ag arbenigwyr o bob maes academaidd a thu hwnt at ei gilydd i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu a darparu cyngor annibynnol ar bolisi.
Mae'r Brifysgol yn nodi ystod o ddigwyddiadau hanesyddol bwysig yn ystod yr Hydref, gan gynnwys #Generation89, sef diwrnod tystiolaeth yn nodi'r Chwyldro Melfed yn Tsiecoslofacia ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.