Myfyrwyr MArch II o Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n arwain sesiwn ddylunio yn Ysgol Gynradd Grangetown
24 Hydref 2019
Ddydd Gwener 18 Hydref, cynhaliodd uned Gwerth MArch II o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, dan arweiniad Mhairi McVicar, weithdy gyda disgyblion Blwyddyn 2 o Ysgol Gynradd Grangetown i drafod dyfodol posibl ar gyfer hen Gut y Gofalwr yng Ngerddi Grange.
Cyrhaeddodd dros 40 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Grangetown Erddi Grange i ddechrau’r diwrnod yn casglu sbwriel i gadw’r parc yn dwt. Ar ôl hyn bu sgwrs fywiol â ‘Westie’, preswylydd lleol a siaradodd am fywyd yng Ngerddi Grange yn y 1960au a’r 70au. Synnodd y plant fod seiclo neu gemau pêl wedi’u gwahardd yng Ngerddi Grange yn ystod ei faboed.
Hefyd, rhannodd Rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol, Ali Abdi, ei atgofion o’r Gerddi a George, sef hen Warcheidwad y Parc. Bu’r plant yn byrlymu â chwestiynau ynghylch y parc a’r cut, a gorffennodd y sesiwn gydag ymweliad i Gut Gwarcheidwad y Parc.
Yna, aeth y grŵp o ddisgyblion a myfyrwyr i ystafelloedd dosbarth Blwyddyn 2 ar gyfer gweithgaredd dylunio. Daeth myfyrwyr pensaernïaeth y bumed flwyddyn gyda model cardbord wedi’i dorri â laser o gut gwarcheidwad y parc er mwyn i’r plant ddylunio eu gweledigaeth am yr adeilad a’i arddangos.
Dywedodd Bartek Robak (MArch): “Roedd gan y plant ddychymyg diderfyn a wnaeth y gweithgaredd yn fwy hwyliog byth.”
Cadwch lygad am beth sy’n digwydd nesaf i Gut Gwarcheidwad y Parc!