Adrodd straeon mewn modd gweledol yn brofiad trawiadol
23 Hydref 2019
Astudio straeon ar ffurf comics mewn menter newydd
Nod un fenter newydd sy'n gweithredu ar draws y ddinas yw rhoi Caerdydd ar y map fel canolfan ar gyfer astudio comics a’u creu, drwy ddod ag ymarferwyr, ysgolheigion a phobl sydd â diddordeb yn yr ardal at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau, a phrosiectau ymchwil posibl ar y cyd.
Mae Rhwydwaith Straeon Comic Caerdydd yn fenter ar y cyd rhwng ysgolheigion ym Mhrifysgol Caerdydd (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a'r Ysgol Ieithoedd Modern) a Phrifysgol De Cymru.
Mae'r Cyd-sefydlydd, ac arbenigwr ar Ieithoedd a Chyfathrebu, Dr Lisa El Refaie yn esbonio:
“Mae comics a nofelau graffig yn gallu adrodd straeon dwys a soffistigedig iawn, drwy eiriau a delweddau. Mae hyn yn cael ei gydnabod fwyfwy, nid dim ond gan artistiaid gweledol a darlunwyr, ond gan academyddion hefyd. Mae gan Brifysgol Caerdydd lawer o arbenigedd yn y maes hwn, yn enwedig yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a’r Ysgol Ieithoedd Modern, sy’n cadw casgliad unigryw Santander o gomics a ysgrifennwyd yn Sbaeneg neu am y byd Sbaenig.”
Roedd lansiad y rhwydwaith yn cynnwys y nofelydd graffig o Gymru, Carol Swain, yn siarad am ei chyhoeddiad diweddaraf Gast. Mae’r llyfr wedi’i leoli mewn cymuned wledig Gymreig, ac yn ystyried ffiniau amwys hunaniaeth, lle ac iaith.
Cynhaliwyd lansiad Rhwydwaith Straeon Comic Caerdydd ar 21 Hydref yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.
Dr Lisa El Refaie (Darllenydd mewn Saesneg Iaith a Chyfathrebu) yw awdur Autobiographical Comics: Life Writing in Pictures a Visual Metaphor and Embodiment in Graphic Illness Narratives.