Diploma Ôl-raddedig newydd mewn Cynllunio Gofal Iechyd wedi'i Lansio
24 Hydref 2019
Bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, sydd â'r dasg o gynllunio cyfeiriad y GIG yng Nghymru yn y dyfodol, yn cael hyfforddiant academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd Diploma Ôl-raddedig ym maes Cynllunio Gofal Iechyd yn cael ei gynnig i academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Meddygaeth. Bydd gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn rhan o'r rhaglen 18 mis o ddysgu – o'r saith bwrdd iechyd a thair o ymddiriedolaethau'r GIG.
Mae'r cwrs, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, yn rhan o fenter ehangach i ddatblygu gweithwyr sydd eisoes yn gweithio ym maes cynllunio gofal iechyd yng Nghymru. Caiff cyfanswm o 125 o bobl eu hyfforddi dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae gan GIG Cymru ymagwedd wahanol at wasanaeth gofal iechyd o'i gymharu â Lloegr, sy'n seiliedig ar gynllunio yn hytrach na chomisiynu. Mae cynllunwyr yn datblygu cynlluniau strategol a gweithredol sy'n helpu eu sefydliadau i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau. Maent yn dod â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill at ei gilydd i arwain a chynllunio newidiadau i'r ffordd mae gwasanaethau'n cael eu cyflwyno i gleifion, gyda rhai ohonynt o bosibl yn cynnwys buddsoddiadau cyfalaf newydd.
Yn ystod y cwrs, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn dysgu am amrywiaeth o bynciau a fydd yn eu helpu i gynllunio a chreu gwasanaethau gofal iechyd effeithiol megis dadansoddi data, rheoli arloesedd ac arwain newid. Addysgir trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith prosiect cymhwysol a dysgu ar-lein.
Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i lansio Diploma arloesol mewn Cynllunio yn y GIG.
"Nod y rhaglen hon sydd wedi'i chreu ar y cyd yw hwyluso a chefnogi'r gwaith hanfodol mae cynllunwyr y GIG yn ei wneud wrth arwain trawsnewidiad darpariaeth y gwasanaeth a gostyngiad o ran anghydraddoldebau iechyd. Mae'r rhaglen yn enghraifft o ymrwymiad yr Ysgol i gyflwyno addysg gyda diben Gwerth Cyhoeddus sy'n gwneud gwahaniaeth i gymunedau, y gymdeithas a'r economi."
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Bydd y cwrs newydd hwn yn helpu i hyfforddi'r genhedlaeth newydd o gynllunwyr, a fydd yn hanfodol wrth gyflawni Cymru Iachach, ein cynllun hir dymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol."
Lansiwyd y cwrs heddiw (Hydref 24) gyda sesiwn hysbysu dros frecwast yn Ysgol Busnes Caerdydd, ynghylch yr heriau sy'n wynebu cynllunwyr GIG Cymru.