Llwyddiant bwrsariaethau
22 Hydref 2019
Mae pedwar myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn dathlu ar ôl sicrhau bwrsariaethau nodedig i ariannu eu hastudiaethau.
Mae’r myfyrwyr - Angelique Caranzo, Daniel Gillen, Ilias Geronikolos a Thomas Morris - yn astudio ar gyfer MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio. Cychwynnon nhw ar eu hastudiaethau y mis yma ar ôl cael eu hysbysu’n gynharach yn ystod yr haf bod eu ceisiadau am fwrsariaeth wedi bod yn llwyddiannus.
Cronfa Ffyrdd Rees Jeffreys
Sicrhaodd Angelique, Daniel ac Ilias £10,000 yr un o Gronfa Ffyrdd Rees Jeffreys i gynnal eu hastudiaethau ôl-raddedig.
Sefydlwyd Cronfa Ffyrdd Rees Jeffreys gan William Rees Jeffreys, arloeswr ym maes gwella teithio i ddefnyddwyr ffyrdd a datblygu’r system genedlaethol o ddosbarthiadau ffyrdd, yn 1950. Ers ei farwolaeth yn 1954 mae gwaddol o’i ystâd wedi darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer addysg ac ymchwil ym maes trafnidiaeth.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i dri myfyriwr o’r Ysgol dderbyn bwrsariaethau Rees Jeffreys.
Bwrsariaeth Brian Large
Derbyniodd Thomas un o ddim ond pedwar bwrsariaeth a ddyfarnwyd ar draws y Deyrnas Unedig eleni gan Gronfa Bwrsariaeth Brian Large, a sefydlwyd yn 1990 yn deyrnged i Brian Large, un o gyfarwyddwyr Grŵp MVA (ymgynghorwyr cynllunio trafnidiaeth).
Bwriad y bwrsariaethau yw "galluogi myfyrwyr nad oes ganddynt ddigon o arian fel arall i astudio'n llawn amser heb orfod ymgymryd â gwaith cyflogedig yn ystod oriau astudio arferol y Brifysgol". Fe'u dyfernir i barhau â gwaith Brian yn cefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rhai sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfaoedd, ac i sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes trafnidiaeth a chynllunio.
Cyson ragorol
Yr MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio yw un o raglenni ôl-raddedig blaengar yr Ysgol. Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o helpu myfyrwyr sy’n dod i mewn i sicrhau bwrsariaethau a chyllid i gyflawni eu huchelgais academaidd.
Dywedodd Dr Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Dim ond wyth bwrsariaeth Rees Jeffreys a phedwar bwrsariaeth Brian Large a ddyfarnwyd eleni, felly mae’n gryn gyflawniad bod pedwar o’n myfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus. Mae’n dangos ansawdd ein carfan o fyfyrwyr a’r parch sydd i’n rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio.
Mae pob un o’r pedwar sydd wedi derbyn bwrsariaeth yn raddedigion o Brifysgol Caerdydd. Cwblhaodd Angelique a Daniel eu hastudiaethau israddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, gan raddio’r haf yma o raglenni BSc Cynllunio a Datblygu Trefol a BSc Daearyddiaeth Ddynol yn eu tro. Astudiodd Ilias Beirianneg Fecanyddol yn yr Ysgol Peirianneg, tra bod gan Thomas radd mewn Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Chymdeithaseg o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.