Galwad am gyfranwyr: Ymadawiad y DG, gwleidyddiaeth diriogaethol a’r cyfansoddiad
22 Hydref 2019
Wedi'i ohirio oherwydd yr etholiad - dyddiad newydd i ddilyn
Mae gweithdy ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar wedi cael ei drefnu gan Katy Hayward (Prifysgol y Frenhines Belffast), Jo Hunt (Prifysgol Caerdydd), Nicola McEwen (Prifysgol Caeredin) a Daniel Wincott (Prifysgol Caerdydd) mewn cyswllt â 'the UK in a Changing Europe', i'w gynnal yng Nghaerdydd ar Ragfyr 11, 2019.
Bwriad y gweithdy yw rhoi cyfle i ymchwilwyr gyrfa cynnar i gyflwyno eu gwaith i uwch ysgolheigion yn y maes ac i adeiladu perthnasau cydweithiol gyda 'the UK in a Changing Europe' - menter a arianwyd gan ESRC gyda’r bwriad o helpu gwyddonwyr cymdeithasol i fwyhau eu gallu i gyflawni effaith ac i ymgysylltu â chynulleidfaoedd sydd heb fod yn rhai academaidd. Y bwriad yw adeiladu cymuned o ysgolheigion iau a all gyfrannu tuag at waith UKICE ar sail barhaus tra’n elwa o’r cyfleoedd i ymgysylltu a chael effaith fyddai’n deillio drwy gydweithio o’r math hwnnw.
Yn gymdeithasol, yn wleidyddol, yn gyfreithiol ac yn ei strwythurau llywodraethol, mae’r Deyrnas Gyfunol yn wladwriaeth hynod o diriogaethol. Mae’n amhosibl deall Brexit heb ddeall ei agweddau tiriogaethol, sydd wedi eu mewnosod yn ddwfn yn ei achosion a’i ganlyniadau. Mae hunaniaethau cenedlaethol a thiriogaethol yn dangos patrymau cymhleth ar draws y DG. Caiff yr hunaniaethau hyn eu hymhlygu yn achosion Brexit, sydd mewn tro yn ei wneud yn fater gwleidyddol eto. Mae Brexit wedi dod ag awdurdodaethau cyfreithiol tiriogaethol lluosog y DG a gafodd eu hesgeuluso yn y gorffennol, i’r wyneb - ac wedi cychwyn trafodaeth llawer mwy eang ynglŷn ag agweddau tiriogaethol trefniadau cyfansoddiadol y DG. Mae’n codi cwestiynau dwfn ynglŷn â datganoli a gweithredu perthnasau rhynglywodraethol a rhyng-seneddol, tra hefyd yn cynyddu’r posibilrwydd o weld newid sylfaenol i’r diriogaeth a lywodraethir gan Whitehall a San Steffan. Nid yw perthnasau rhynglywodraethol yn gyfyngedig i drefniadau o fewn y DG ei hunan - maen nhw hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â’r DG ac Iwerddon - a ‘chrynswth perthnasau ymhlith pobloedd yr ynysoedd yma’. Mae’r ffin ar ynys Iwerddon wrth gwrs, wedi dod yn ffocws allweddol ar gyfer trafodaethau ‘Brexit’. O’i osod mewn persbectif tymor hirach, bydd gofyn hefyd am sylw a dadansoddiad o ffiniau o fewn Prydain Fawr, yn ogystal â gydag Iwerddon (gogledd a de).
Sefydliad academaidd yw 'the UK in a Changing Europe', sydd wedi ymrwymo i roi mewnwelediadau gwyddorau cymdeithasol lan i’r funud i mewn i Brexit ar gyfer cynulleidfa sydd heb fod yn un academaidd, ac mae’n awyddus i ledaenu ei rwydwaith o ymchwilwyr gyrfa cynnar. I’r perwyl hwn, mae’r gweithdy wedi ei gynllunio fel rhan o gyfres o weithdai sydd yn dod ag ysgolheigion iau a rhai mwy profiadol ynghyd er mwyn trafod ymchwil newydd ar feysydd allweddol o’r drafodaeth ar Brexit. Bydd ysgolheigion iau yn elwa o fod yn rhan o rwydweithiau yn eu maes arbenigedd, tra hefyd yn elwa o’r cyfleoedd y bydd cydweithio gyda UKICE yn eu cynnig er mwyn cael mwy o effaith ar gyfer eu hymchwil.
Anogwn geisiadau gan ymgeiswyr sydd yn gweithio mewn ystod o ddisgyblaethau academaidd perthnasol (gan gynnwys y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg a Daearyddiaeth) ac ar unrhyw ran neu holl rannau’r DG neu’r “ynysoedd yma”. Er mwyn cymryd rhan drwy gyflwyno papur, byddwch cystal ag anfon e-bost o’r teitl a chrynodeb 250 o eiriau amdano at Daniel Wincott (GovernanceAndBrexit@cardiff.ac.uk). Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn y gweithdy heb gyflwyno papur, byddwch cystal ag anfon crynodeb 250 o eiriau o’ch diddordebau ymchwil erbyn Tachwedd 8 at y cyfeiriad e-bost uchod. Bydd amserlen y gweithdy yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Tachwedd. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus gymorth gyda theithio a darperir cinio hefyd.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglŷn ag elfennau ymarferol y gweithdy, byddwch gystal â dod i gyswllt â Becky Lloyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar GovernanceAndBrexit@cardiff.ac.uk.