Enillydd Gwobr Nobel, Kip Thorne, yn agor labordy ffiseg newydd yng Nghaerdydd
22 Hydref 2019
Mae Kip Thorne, enillydd gwobr Nobel, wedi ymweld â Chaerdydd heddiw i agor labordy ffiseg disgyrchol newydd sbon.
Cafodd y gwyddonydd o America, un o'r tri i gael y Wobr Nobel yn 2017 am arsylwi tonnau disgyrchol, daith dywys o gwmpas y cyfleusterau newydd sydd wedi'u dylunio i wella prosiect a gyd-sefydlwyd gan Thorne dros 30 mlynedd yn ôl.
Mae Thorne, Athro Ffiseg Ddamcaniaethol Feynman, Emeritws o Sefydliad Technoleg California, yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw y byd ym maes goblygiadau theori cyffredinol Einstein o berthynoledd.
Mae Thorne, a oedd yn un gydweithiwr ac un o ffrindiau oes Stephen Hawking a Carl Sagan, hefyd yn ymgynghorydd gwyddonol sydd wedi gweithio ar ffilmiau gan gynnwys ffilm Christopher Nolan, Interstellar.
Ym 1984, cyd-sefydlodd Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO) a oedd â'r nod o arsylwi darn hanfodol o dystiolaeth a gynigiwyd gan theori enwog Einstein – bodolaeth tonnau disgyrchiant.
Mae'r crychdonnau hyn mewn gofod-amser, a gynigiwyd gyntaf gan Einstein dros 100 mlynedd yn ôl, yn deillio o ganlyniad i ddigwyddiadau cosmig ffyrnig, megis gwrthdrawiad tyllau duon.
Roedd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn aelodau sefydlol o Brosiect Gwyddonol Cydweithredol LIGO a gwnaethant gyfraniadau allweddol at y prosiect i arsylwi ar donnau disgyrchol am y tro cyntaf yn 2015 a'r canfyddiadau dilynol wedi hynny.
Fe wnaeth ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd osod y sylfeini ar gyfer canfod tonnau disgyrchol, drwy ddatblygu algorithmau a meddalwedd newydd sydd bellach wedi dod yn declynnau safonol ar gyfer synhwyro'r signalau hyn, sy'n anodd eu canfod.
Mae'r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant bellach yn ehangu o'r damcaniaethol i'r ymarferol drwy helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau canfod.
Mae synwyryddion tonau disgyrchol yn cynnwys twneli siâp-L cilomedr o hyd, lle caiff holltwr pelydrau ei fownsio yn ôl ac ymlaen rhwng drychau, sydd wedi'u gosod ar bennau cyferbyniol pob braich. Mae gwyddonwyr yn edrych am arwyddion o donnau disgyrchol yn cyrraedd y synwyryddion drwy edrych am gamgyfatebiaeth fychan yn yr amser mae'n ei gymryd i bob holltwr pelydrau gwblhau ei daith.
"Mae ein labordy newydd yn canolbwyntio ar ymchwil a gwaith i ddatblygu technegau i wella sensitifrwydd synwyryddion tonnau disgyrchol sy'n bodoli eisoes a rhai yn y dyfodol", meddai'r Athro Hartmut Grote o Sefydliad Archwilio Disgyrchiant Prifysgol Caerdydd.
"Gyda synwyryddion mwy sensitif, gallwn 'wrando' ar fwy o sêr niwtron a thyllau du sy'n gwrthdaro, ond bydd ein hymchwil hefyd yn cyfeirio at feysydd eraill o ffiseg sylfaenol, megis chwilio am donnau disgyrchol amledd uchel, mater tywyll, a chwanteiddio gofod-amser yn y pen draw."
Roedd Bernard Schutz, Athro o Brifysgol Caerdydd, yn gwmni i Thorne ar ei daith o'r labordai newydd, a chafodd ef ei fentora a'i oruchwylio gan Thorne pan wnaeth ei PhD yn Caltech.
Yn ôl yr Athro Schutz: "Rwy'n cofio Kip yn ymweld â Chaerdydd ym 1987 ar gyfer y gynhadledd ryngwladol gyntaf erioed ynglŷn â sut i ddadansoddi data ar gyfer y synwyryddion a gynlluniwyd ar y pryd, un o'r nifer fawr o rannau o'r gwaith canfod yr oedd ganddo ddiddordeb dwfn a chreadigol ynddi.
"Mae'n wych ein bod ni, dros dri degawd yn ddiweddarach, a gyda chymaint o ganfyddiadau o donnau disgyrchol i'n henw, wedi gallu gwahodd Kip nôl i Gaerdydd i weld sut bydd y genhedlaeth nesaf o synwyryddion yn cael ei datblygu."
https://www.youtube.com/watch?v=P2GXna1psOo&feature=youtu.be