Fideo: Hon Julia Gillard AC ar rhywedd, gwleidyddiaeth ac arweinyddiaeth
8 Hydref 2019
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1707676/jgwgc2.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, ddigwyddiad arbennig gyda Hon Julia Gillard AC, mewn trafodaeth gyda’r Athro Laura McAllister.
Roedd cannoedd yn bresennol yn adeilad y Senedd neithiwr i glywed Julia Gillard a Laura McAllister yn trafod rhywedd, gwleidyddiaeth ac arweinyddiaeth. Clywyd am ei gyrfa wleidyddol a’i meddyliau ar ddyfodol cynrychiolaeth a chydraddoldeb menywod yn yr hinsawdd fyd-eang wenwynig sydd ohoni.
Mae fideo o’r digwyddiad bellach ar gael ar Senedd.tv.