Myfyriwr PhD, Noah Akhimien, yn ennill gwobr am y cyflwyniad gorau yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Ynni, yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.
21 Hydref 2019
Mae Noah Akhimien, myfyriwr PhD o Mega-Adeiladau Cynaliadwy, wedi ennill Gwobr am y Cyflwyniad Gorau yng nghynhadledd ICEEDD 2019 yn San Francisco
Nod y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 26-27 Medi, oedd dod â gwyddonwyr academaidd, ymchwilwyr ac ysgolheigion ymchwil blaenllaw ynghyd i rannu eu profiadau a chanlyniadau ymchwil ar bob agwedd ar Ynni, yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. Mae hefyd yn cynnig prif lwyfan rhyngddisgyblaethol i ymchwilwyr, ymarferwyr ac addysgwyr i gyflwyno a thrafod y datblygiadau arloesol, y tueddiadau a'r pryderon diweddaraf, yn ogystal â'r heriau ymarferol a wynebwyd a'r atebion a ddefnyddiwyd ym maes Ynni, yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.
Dywedodd Dr Eshrar Latif, arweinydd cwrs ar gyfer MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy:
"Mae gwaith parhaus Noah yn ymwneud â dull arloesol o ymgorffori economi gylchol mewn dylunio adeiladu ynni isel ac rydw i'n hapus iawn bod ei ymchwil wedi'i gydnabod yn y gynhadledd ryngwladol hon lle gafodd y cyfle i gyflwyno i'r rhai sy'n arwain yn y maes."
Mae'r MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy yn canolbwyntio ar egwyddorion cynllunio a dylunio mega-adeiladau mewn modd cynaliadwy, a'i nod yw hyfforddi myfyrwyr i ymateb i'r heriau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r adeiladau hyn. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Dr Eshrar Latif: latife@caerdydd.ac.uk