Sgan MRI rhithiol i fyfyrwyr
21 Hydref 2019
Mae canolfan ymchwil delweddu'r ymennydd sy'n arwain y byd yn cynnig sgan MRI rhithiol i fyfyrwyr Safon Uwch yn rhan o fenter newydd Prifysgol Caerdydd i ysgolion.
Mae sgan Rhithwir CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd) yn mynd â myfyrwyr trwy wahanol gamau o'r broses sganio, sy'n cael ei defnyddio i greu delweddau manwl o tu fewn i gorff.
Mae'r sgan, a all gael ei gynnal unrhyw le drwy ddefnyddio'r set pen rhithwir, yn rhan o becyn gweithgaredd 'Blwch Ymennydd' newydd ar gyfer myfyrwyr seicoleg a bioleg Safon Uwch. Ariennir y pecyn gan grant ymgysylltu cyhoeddus Ymddiriedolaeth Wellcome.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys gêm ddis amheus, her seicolegol sy'n cymysgu lliwiau a phrawf blasu ffrwythau sy'n twyllo'r ymennydd drwy gymysgu lliw a blas.
Mae'r 'Blwch Ymennydd', wedi'i ddylunio gan yr Ysgol Seicoleg a Fferylliaeth, yn seiliedig ar weithgareddau ymgysylltu niwrowyddoniaeth hynod llwyddiannus Gemau Ymennydd y Brifysgol.
Mae'r gweithgareddau yn ddwyieithog a does dim angen hyfforddiant oherwydd darperir cyfres o fideos sy’n egluro sut i chwarae'r gemau ac ystyr y canlyniadau.
Mae adnoddau ychwanegol yn cynnwys fideos YouTube sy'n cwmpasu pynciau perthnasol megis canfyddiad lliw, swyddogaeth yr ymennydd a iechyd meddwl.
Rhoddir dosbarthiadau meistr i athrawon ar sut i ddefnyddio'r pecynnau ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Iau 24 Hydref.