University Professor appointed Editor-in-Chief of new American Physiological Society journal
21 Hydref 2019
Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Ole Petersen, wedi’i benodi’n Brif Olygydd Sefydlol Function, y cyhoeddiad diweddaraf gan y Gymdeithas Ffisiolegol Americanaidd.
Amserlennir i Function lansio yn 2020, a bydd yn cynnig canolbwynt mynediad-agored, amlddisgyblaethol ar gyfer erthyglau proffil uchel sy’n cwmpasu camau mawr ymlaen ym maes gwyddoniaeth sylfaenol, drosiannol a chlinigol sy’n hyrwyddo dealltwriaeth ffisiolegol neu bathoffisiolegol o swyddogaeth fiolegol.
Is-Lywydd Academia Europaea a Chyfarwyddwr Canolfan Wybodaeth Caerdydd Academia Europaea yw’r Athro Ole Petersen CBE FRS o Ysgol y Biowyddorau. Ar hyd ei yrfa, mae wedi ennill nifer o wobrau i gydnabod ei ymchwil flaengar i rôl signalu calsiwm mewn clefydau pancreatig.
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd yr Athro Petersen:
“Mae’r cyfle i guradu’r wyddoniaeth fwyaf blaengar ym maes eang a phwysig swyddogaeth fiolegol yn wirioneddol gyffrous.”
Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol y Gymdeithas Ffisiolegol Americanaidd, Scott Steen, CAE, FASAE:
“Rwyf wrth fy modd gyda phenodiad Ole Petersen. Mae’n wyddonydd o fri gyda phrofiad eang mewn cyhoeddi gwyddonol. Mae ei gysylltiadau dwfn ag Ewrop a’r gymuned ymchwil fyd-eang yn arbennig o bwysig gan fod y Gymdeithas am ehangu ei hôl-troed rhyngwladol a chyflymu ein cefnogaeth ar gyfer gwyddoniaeth agored.”
Ychwanegodd Curt Sigmund, PhD, cadeirydd Tasglu Cyhoeddiadau Cymdeithas Ffisiolegol America:
“O’r cychwyn cyntaf, mae arweinwyr Cymdeithas Ffisiolegol America wedi deall pa mor hollbwysig yw dewis gwyddonydd gweithredol â chymwysterau gwyddonol rhagorol ar gyfer rôl y prif olygydd. Mae Ole yn ymchwilydd uchel ei barch sydd â chysylltiad da â'r weledigaeth, yr hyder a'r cymwysterau gwyddonol i sicrhau llwyddiant y fenter newydd hon."