Yr Athro Daniel Kelly yn cyhoeddi datrysiad Ewropeaidd sy’n ceisio cael gwared ar HPV erbyn 2030
2 Hydref 2019
Fis diwethaf, yr Athro Daniel Kelly oedd cadeirydd Cynhadledd y Sefydliad Canser Ewropeaidd (ECCO) ym Mrwsel, a chymeradwywyd datrysiad yn unfrydol gyda'r nod o gael gwared ar firws papiloma dynol (HPV). Mae HPV yn achosi canser serfigol yn ogystal â rhai canserau eraill, gan gynnwys canser y pen, y gwddf a chanser cehedlol ymhlith y ddau ryw.
Mae'r datrysiad, a baratowyd gan ECCO ac aelodau'r cymdeithasau, yn nodi "erbyn 2030, dylai strategaethau effeithiol i gael gwared ar ganserau a achosir gan HPV fel problem i iechyd y cyhoedd gael eu gweithredu ym mhob un o ddinasoedd Ewrop."
Bob blwyddyn, mae canser serfigol yn achosi dros 300,000 o farwolaethau ledled y byd ac eto, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae'n un o'r mathau o ganser y gellid eu hatal a'u trin orau (os caiff ei ganfod yn ddigon cynnar a'i drin yn briodol).
Wrth gyhoeddi'r datrysiad yn y Gynhadledd ym Mrwsel, dywedodd yr Athro Daniel Kelly;
"Mae'n glir bod llawer o dystiolaeth ar gael am effeithlonrwydd a photensial brechu".
"Mae'n bosibl cael gwared arno gyda'r seilwaith cywir. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei atal, felly mae'n rhaid i ni ledaenu'r neges."
Yn ogystal â'r datrysiad, cyhoeddwyd cynllun gweithredu manwl yn amlinellu sut y gellir ei hwyluso, a oedd yn cynnwys rhoi brechiad i fechgyn a merched.
Un cam gweithredu yw galw ar yr holl gynlluniau canser cenedlaethol Ewropeaidd i gynnwys mesurau er mwyn rhoi'r brechiad HPV erbyn 2025. Un arall yw sicrhau bod y rhaglenni brechu ar waith ar draws Ewrop erbyn 2030.
"Hoffem i 90% o bobl ifanc allu cael brechiad erbyn 2030", dywedodd Kelly.
Roedd Comisiynydd Iechyd yr UE, Yventis Andriukaitis, yn bresennol yn y Gynhadledd ECCO, a galwodd am fwy o fuddsoddiad o ran atal canser, gan gynnwys brechu HPV, ar draws Ewrop.