Diodydd poeth yw achos mwyaf cyffredin llosgiadau i blant ifanc
16 Hydref 2019
Mae rhieni’n cael eu hannog i gymryd gofal gyda diodydd poeth yn rhan o ymgyrch ledled y DU i fynd i’r afael â’r achos mwyaf cyffredin o losgiadau plant.
Mae ymgyrch SafeTea yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae wedi’i brofi mewn cydweithrediad â staff blynyddoedd cynnar a rhieni plant ifanc.
Mae ymchwil yn dangos bodd dros 50,000 o blant yn y DU yn mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau bob blwyddyn, ac mai plant o dan bump oed oedd y rhan fwyaf ohonynt. Digwyddiadau gyda diodydd poeth sydd i’w cyfrif am 60% o’r plant o dan dair oed sy’n mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau. Mae hyn yn cyfateb i 30 o blant ifanc bob dydd.
Dywedodd yr Athro Alison Kemp o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy’n arwain yr ymchwil: "Mae miloedd o achosion o ddamweiniau sgaldio gyda diodydd poeth yn digwydd bob blwyddyn a dim ond rhai camau syml sydd eu hangen i atal anafiadau a allai fod yn rhai difrifol dros ben.
"Gall llosgiadau o ddiodydd poeth achosi niwed difrifol i groen plentyn ifanc gan roi creithiau parhaol a golygu bod angen iddynt cael triniaeth feddygol barhaus nes y byddant yn oedolion. Dyna pam ein bod yn atgoffa rhieni i gadw diodydd poeth ymhell o’u cyrraedd."
Cafodd Joseph Nash ei greithio am oes pan dynnodd tegell wedi’i ferwi ar ei hun yn naw mis oed. Erbyn hyn, mae’n oedolyn 28 oed sy’n dad i ferch saith oed, ac mae’n awyddus i rybuddio eraill am y peryglon.
Meddai: "Mae’r creithiau eu hunain wedi bod yn rhwystr drwy gydol fy mywyd. Bob ychydig flynyddoedd, roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl, er mwyn agor y creithiau a chael impiad croen arall i’m galluogi i symud yn y modd arferol. Dim ond damwain syml oedd hi, ond mae wedi achosi oes o driniaeth barhaus. Mae gan rieni plant ifanc gymaint i feddwl amdano. Rwy’n credu bod hwn yn berygl sy’n cael ei anwybyddu’n aml."
Croesawodd David Farrell, uwch-nyrs yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yr ymgyrch. "Byddai wedi bod yn bosibl atal y mwyafrif llethol o losgiadau plant a welwn," meddai. "Mae plant fel arfer gam ar y blaen i’w rhieni pan ddaw i’w datblygiad. Mae rhieni’n cael eu dal gan y pethau y gallant eu gwneud, fel tynnu eu hunain i fyny. Dylai rhiant roi diod poeth ymhell o gyrraedd cyn mynd yn agos at ei blentyn neu ei godi."
Gall diodydd poeth achosi niwed i groen plentyn hyd yn oed ar ôl 30 munud. Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd yr ymgyrch ymwybyddiaeth yn llwyddo i leihau nifer y llosgiadau plant a welir gan staff meddygol. Er mwyn helpu i ledaenu’r neges, maen nhw wedi creu llu o adnoddau ar-lein ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.
Ychwanegodd yr Athro Kemp: "I osgoi risg, dylai rhieni gadw diodydd poeth allan o gyrraedd plant, ni ddylent fyth basio diod boeth dros blentyn, neu ddal diod a babi ar yr un pryd. Rydym hefyd yn eu cynghori i ddysgu’r cymorth cyntaf cywir ar gyfer llosgiadau i’w helpu os bydd ddamwain: Oeri’r croen sydd wedi llosgi drwy ei roi o dan ddŵr oer sy’n rhedeg am 20 munud; Galw am gyngor meddygol, Galw Iechyd Cymru neu 999; Gorchuddio’r croen â clingfilm. Yr eiliadau cyntaf ar ôl llosgi yw’r cyfnod mwyaf tyngedfennol ar gyfer atal niwed tymor hir."
Mae SafeTea yn seiliedig ar ymchwil wyddonol a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Plant a ariennir gan The Scar Free Foundation' ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda chymorth ariannol gan British Burns Association, Worshipful Company of Tin Plate Workers of the City of London, VTCT Foundation, Cyfnewidfa Dinas-Ranbarth Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan SafeTea: www.safetea.org.uk