Hyfforddiant CPR eang i feddygon
15 Hydref 2019
Mae myfyrwyr Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yn sy'n debygol o fod y digwyddiad hyfforddiant CPR mwyaf eang a gynhaliwyd erioed.
Bydd ein meddygon yn addysgu aelodau o'r cyhoedd mewn lleoliadau yng Nghaerdydd sut i gynnal CPR, fel rhan o Ddiwrnod Adfywio Calon y Byd ddydd Mercher 16 Hydref.
Bydd achubwyr bywydau eraill yn gwneud yr un peth ar draws y byd.
Dysgodd bron i 239,000 o bobl sut i gynnal CPR yn y DU fel rhan o'r digwyddiad y llynedd, ac mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd digwyddiad eleni hyd yn oed yn fwy.
Nod y Diwrnod Adfywio Calon yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer isel o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon pan nad ydynt mewn ysbyty.
Bydd ein myfyrwyr Meddygaeth yn addysgu sut i gynnal CPR mewn dau leoliad yng Nghaerdydd ar 16 Hydref yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, a Tesco Extra ar Rodfa'r Gorllewin.
Roedden nhw yn cynnal sesiynau CPR yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, ddydd Sadwrn 12 Hydref.
Bydd y tîm o fyfyrwyr – y disgwylir iddo gynnwys dros 30 o feddygon – yn cael ei arwain gan fyfyrwraig Meddygaeth yn ei phumed flwyddyn, Hayley Taylor.
Yn ôl Hayley: "Mae gan unrhyw un y gallu i achub bywyd. Mae cywasgu'r frest yn syml unwaith eich bod yn gwybod sut i wneud hynny, ac mae diffibrilwyr allanol awtomataidd (AEDs) yn fwyfwy cyffredin mewn mannau cyhoeddus.
"Os yw'r sgiliau hyn yn cael eu haddysgu i bobl, ac os ydynt yn sylweddoli bod AEDs wedi'u dylunio i'w defnyddio gan unrhyw un, gallent feddu ar y sgiliau a'r hyder i achub bywyd."
Ystyr CPR yw dadebru cardiopwlmonari (cardiopulmonary resucitation) a bydd y myfyrwyr yn addysgu sut i gywasgu'r frest a defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd.
Mae dros 30,000 o bobl y flwyddyn yn cael ataliad ar y galon, pan nad ydynt yn yr ysbyty, yn y DU bob blwyddyn.
Mae llai nag un ym mhob 10 yn y DU yn goroesi, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, ond mae pedair gwaith yn fwy yn goroesi mewn llefydd fel Norwy, lle mae CPR yn cael ei addysgu'n fwy eang.
Mae Diwrnod Adfywio Calon yn fenter flynyddol o dan arweiniad Cyngor Dadebru Ewrop a'r Cyngor Dadebru (y DU) ochr yn ochr â phartneriaid eraill.
Mae gwybodaeth ar wefan y GIG ynghylch sut i gynnal CPR.