Mae myfyrwyr MDA cyntaf Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ymuno â charfan DPP eleni ar gyfer cwrs pedwar diwrnod dwys a deinamig.
15 Hydref 2019
Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd cwrs byr cyntaf y flwyddyn ar gyfer Meistr mewn Gweinyddu Dylunio a'r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3), yn edrych ar bynciau sy'n allweddol i'r ddwy raglen, gyda chyfraniad bywiog gan y myfyrwyr a chyflwyniadau rhyngweithiol a chraff gan yr arbenigwyr gwadd.
Roedd yr wythnos yn cynnwys gweithdy astudiaeth dichonolrwydd diwrnod o hyd gyda gweithdai a seminarau byrrach ar ystod o bynciau cyfredol yn ymwneud â rheoli datblygu, rheoli ymarfer a gwasanaethau proffesiynol.
Cafodd ei gynnal gan Arweinydd y Rhaglen, Yr Athro Sarah Lupton, gyda chymorth ymgynghorwyr arbenigol allanol yr Ysgol, Manon Stellikas (Lupton Stellikas) a Rob Firth (ActionCOACH Global) a'r tiwtor Katherine Jones (Katherine MG Jones: Artist a Phensaer), Chloe Sheward (Purcell), Bianca Dumea (GFA) ac Oliver Steels (Neges).
Rhoddodd cyfranwyr eraill ystod o seminarau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
- Contractau perfformiad ynni gyda'r Athro Ian Knight (WSA),
- Rheoliadau acwsteg gyda Mike Hewett (AECOM),
- Rheoliadau tân gyda Tim Roberts a Gareth Richards (Tân ARUP),
- Effaith TAW ar ddatblygiad gyda Simon Merry (Ymgynghorwyr Eiddo TAW Berthold Bauer),
- NPPF - cyflenwi tai a hyfywedd gyda Tony Mulhall (RICS),
- Gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol mewn datblygiad dan arweiniad cyngor gyda Helen Evans (LB Newham / Ymarfer Cyhoeddus),
- Paneli adolygu dylunio gyda Jonathan Braddick (Panel Adolygu Dylunio),
- Cyfraith cyflogaeth gyda Mared Griffiths (Eversheds),
- Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol gyda Nick Hodges (Fielden Clegg Bradley Studios),
- Timau dylunio adeiladau gyda Angela Dapper (Grimshaw),
- Atebolrwydd ac yswiriant gyda Madeleine Jordan (Geldards LLP) a
- Hawlfraint gyda Gosia Evans (Geldards LLP).
Dywedodd yr Athro Lupton:
“Roedd yn gyffrous croesawu’r myfyrwyr MDA a DPP newydd i’r Ysgol. Wrth gynnal y modiwlau a rennir rydym yn medru croesawu cymysgedd eang o gefndiroedd a phrofiad, gan alluogi trafodaeth fywiog a chyfle i rannu syniadau”
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y rhaglenni uchod, cysylltwch â’r Athro Sarah Lupton - Lupton@caerdydd.ac.uk.